Yswiriant

Cyhoeddwyd 8th Ebr, 2020

Atebolrwydd Cyhoeddus

Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn rhagofyniad hanfodol ar gyfer POB digwyddiad. 

Ni chaniateir i’ch digwyddiad gael ei gynnal oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o hyn wedi’i darparu a’i chadarnhau gan Gyngor Caerdydd. Yr isafswm yswiriant sy’n ofynnol gan Gyngor Caerdydd yw £5,000,000.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo digwyddiad, waeth pa mor bell mae wedi cyrraedd yn y broses archebu, os na ddarperir yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol. 

Mae’r Trefnydd Digwyddiadau yn gyfrifol am goladu copïau o’r Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy’n ddilys ar gyfer dyddiadau’r digwyddiad o’r is – gontractwyr a chyflenwyr.  Dylai fod gan unrhyw Berfformwyr a gontractir gan Drefnydd y Digwyddiad fel rhan o ddigwyddiad hefyd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar wahân.  Dylai hwn fod ar gael i’w archwilio ar y safle / yn ystod yr ymweliad Panel Cyswllt Digwyddiadau. 

Atebolrwydd Cyflogwr

Os ydych yn cyflogi unrhyw un mewn perthynas â’r digwyddiad, rhaid bod gennych chi Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr. Yr isafswm yswiriant sy’n ofynnol gan Gyngor Caerdydd yw £5,000,000.   Dylai hwn fod ar gael i’w archwilio ar y safle / yn ystod yr ymweliad Panel Cyswllt Digwyddiadau.

Canllawiau ar bob digwyddiad