Tân

Cyhoeddwyd 4th Mai, 2020

Ni chewch gynnau tân o gwbl yn y parc heb gymeradwyaeth Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau ymlaen llaw.

Os cewch ganiatâd, rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau nad oes unrhyw ddifrod yn cael ei achosi i’r ddaear na’r coed a bod ffordd briodol o ddiffodd y tân yn gyfan gwbl ar gael bob amser. 

Bydd yn ofynnol bod Trefnydd y Digwyddiad wedi cynnal asesiad risg tân ar gyfer y digwyddiad yn unol â’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Rhaid cyflwyno  Asesiad Risg Tân addas a digonol i’r  Panel Cyswllt Digwyddiadau nid llai na 4 wythnos cyn y diwrnod cyntaf y bydd y digwyddiad ar agor ar gyfer busnes.

Defnyddio nwy LPG neu sylweddau fflamadwy

Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau fflamadwy a sylweddau eraill sy’n beryglus i iechyd yn cael eu rheoli yn unol â Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002 (COSHH).

Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn sicrhau bod storio a defnyddio LPG yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Cymdeithas LPG Rhan 7 – Storio silindrau a chetris LPG llawn a gwag, a Rheoliadau Hylifau Fflamadwy Iawn a LPG 1972.

Bydd pob silindr LPG a chynwysyddion deunydd fflamadwy, llawn a gwag, yn cael eu storio yn yr awyr agored, ar dir cadarn gwastad mewn safle sy’n cael ei awyru’n dda, ac sy’n ddiogel fel na chaiff unrhyw un fynediad ato ac eithrio gweithwyr neu Asiantau medrus a chymwys.

Gellir defnyddio offer sydd wedi’i gynllunio’n benodol i’w ddefnyddio dan do gyda silindrau ar neu yn y cyfarpar, ond byddant yn cydymffurfio â gweithdrefnau gweithredu gweithgynhyrchwyr.

Canllawiau defnyddiol

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pob cyflogwr, rheolwr, trefnydd digwyddiadau, meddianwr a pherchenog digwyddiadau a lleoliadau awyr agored. Mae’n nodi’r hyn sy’n rhaid i chi ei wneud i gydymffurfio â chyfraith diogelwch tân, eich helpu i gynnal asesiad risg tân a nodi’r rhagofalon tân cyffredinol y mae angen i chi eu rhoi ar waith.


Asesiad Risg Diogelwch Tân – digwyddiadau a lleoliadau awyr agored
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau awyr agored, megis cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth, digwyddiadau chwaraeon, ffeiriau, gwyliau stryd, gwyliau crefyddol, gwyliau balŵn, ffeiriau sirol, a digwyddiadau tebyg eraill.


Asesiad Risg Diogelwch Tân – lleoliadau ymgynnull bach a chanolig
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio ar gyfer lleoliadau lle mae’r adeilad neu ran o’r adeilad yn cael ei defnyddio’n bennaf fel lleoliad ymgynnull bach (h.y. safle sydd â lle i hyd at 60 o bobl) neu ganolig (h.y. safle sydd â lle i hyd at 300 o bobl). Mae’r rhain yn cynnwys: tafarndai, clybiau, neuaddau dawns/ysgolion dawns, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, eglwysi, mannau addoli neu astudio crefyddol eraill a safleoedd cysylltiedig, strwythurau dros dro a phebyll mawr.

Asesiad Risg Diogelwch Tân – lleoliadau ymgynnull mawr
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio ar gyfer lleoliadau lle mae’r adeilad neu ran o’r adeilad yn cael ei defnyddio’n bennaf fel lleoliad ymgynnull mawr (h.y. safle lle gallai mwy na 300 o bobl ymgynnull). Mae’r rhain yn cynnwys stadia chwaraeon, canolfannau arddangos a chynadleddau, canolfannau hamdden, pyllau nofio, clybiau nos mawr a thafarndai mawr, eglwysi, eglwysi cadeiriol, mannau addoli neu astudio crefyddol eraill ac adeiladau cysylltiedig, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, ardaloedd cyffredin o ganolfannau siopa, strwythurau dros dro mawr, pebyll mawr, strwythurau a gynhelir gan aer, canolfannau cymunedol mawr, neuaddau pentref mawr ac adeiladau tebyg


Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân – Cynllunio Diogelwch Digwyddiadau
Mae’r ddogfen hon wedi’i llunio i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad gwerthfawr a chyson i drefnwyr digwyddiadau newydd neu rai dibrofiad wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau bach i ganolig. Yn yr un modd gellir ei defnyddio fel cymorth cof i’r timau mwy profiadol wrth gynllunio ar gyfer eu digwyddiadau. Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i ddarparu canllawiau perthnasol mae’n bosibl y bydd enghreifftiau lle gallai rheoliadau ac amodau awdurdodau lleol ofyn am ystyriaeth a chynllunio ychwanegol.

  • Adran 5 – Diogelwch Tân
  • Atodiad 3 Asesiad Risgiau Tân – Consesiynau Bwyd
  • Atodiad 4 Asesiad Risgiau Tân – Stondinau Masnachwyr a Marchnad
  • Atodiad 5 Asesiad Risgiau Tân – Strwythurau Dros Dro

Gweler Asesiad Risg Tân (FRA)
Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Cynhyrchu Arbennig a Gweithgarwch Peryglus

Canllawiau ar bob digwyddiad