Asesiad Risg Tân

Cyhoeddwyd 1st Mai, 2020

Rhaid cyflwyno  Asesiad Risg Tân addas a digonol i’r  Panel Cyswllt Digwyddiadau nid llai na 4 wythnos cyn y diwrnod cyntaf y bydd y digwyddiad ar agor ar gyfer busnes.

Rhaid i’r Asesiad Risg Tân gael ei gynnal gan berson cymwys sydd â phrofiad a chymwysterau diogelwch tân addas.

Mae’r eitemau o ddiddordeb arbennig yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

  • Cynllun argyfwng
  • Cynllun gadael safle
  • Cyfrifiadau capasiti diogel ar gyfer arena’r digwyddiad fel endid
  • Cyfrifiadau capasiti diogel ar gyfer rhannau penodol o arena’r digwyddiad (e.e. pebyll mawr neu ardaloedd caeedig eraill)
  • Rhaid cydymffurfio â’r mesurau i sicrhau capasiti diogel
  • Unrhyw weithgareddau neu nodweddion risg tân uchel (e.e. pyrodechnegau, cyfleusterau arlwyo masnachol)
  • Mynediad i gerbydau argyfwng
  • Hyfforddi Staff

Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Cynhyrchu Arbennig a Gweithgarwch Peryglus

Canllawiau ar bob digwyddiad