Effeithiau Arbennig Cynhyrchiad a Gweithgarwch Peryglus
Cyhoeddwyd 22nd Ebr, 2020Rhaid i Reolwr Digwyddiadau’r Parciau roi caniatâd o flaen llaw ar gyfer unrhyw effeithiau arbennig cynhyrchiad a gweithgarwch peryglus.
Trefnydd y Digwyddiad yn unig sy’n gyfrifol am sicrhau bod cynnwys yr asesiad risg sy’n benodol i’r digwyddiad yn addas ac yn ddigonol ac am sicrhau bod y mesurau lliniaru yn yr asesiad risg yn cael eu dilyn.
Gallwch wneud cais i ddefnyddio’r canlynol fel rhan o’ch cais. Rhaid cael caniatâd o flaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau’r Parciau. Dylid enwi unrhyw weithgaredd arbenigol yn eich ffurflenni cais digwyddiad a dylech ddarparu asesiadau risg.
- Ffilmio gyda Drôn
- Ffilmio ar Lefel y Ddaear
- Pyrodechnegau
- Laserau
- Peiriannau Mwg
- Peiriannau Effaith Gwynt
- Peiriannau Golau Strôb
- Canonau Confetti/Rhubannau Ffefrir rhubanau papur bioddiraddadwy (ni chaniateir defnyddio confetti ffoil ar y safle) a chyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad fydd yr holl wastraff a gynhyrchir a rhaid ei symud o’r safle.
- Tân gwyllt
- Styntiau / perfformiad awyr
- Gweithgaredd balŵn aer poeth neu reid ar rwymyn
- Arall – rhowch fanylion
Gweler
Gweler Asesiad Risg
Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg