Strwythurau Datgymaladwy Dros Dros

Cyhoeddwyd 4th Chw, 2020

Mae digwyddiadau’n aml yn cynnwys codi strwythurau dros dro ac mae’r rhain yn cynnwys risg ac mae angen i Drefnydd y Digwyddiad eu rheoli’n briodol.

Rhaid i bob strwythur dros dro gael ei gynllunio, ei weithgynhyrchu, ei godi a’i ddatgymalu’n briodol gan gontractwyr/dylunwyr cymwys sydd ag adnoddau digonol yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y ddogfen ganllaw “Temporary Demountable Structures” 4ydd argraffiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol.

Rhaid i’r person cymwys sy’n gyfrifol am godi pob strwythur gyflwyno tystysgrif diogelwch wedi’i llofnodi (cymeradwyo) cyn y digwyddiad ar ei gyfer, sy’n dweud bod y strwythur/strwythurau wedi’u hadeiladu yn unol â’r dyluniad a’u bod yn ddiogel ac yn addas at y diben.

Dylai fod gan bob digwyddiad gynllun rheoli gwynt sy’n rhestru cyflymder uchaf y gwynt ar gyfer pob strwythur a’r camau i’w cymryd ar 60% ac 80% o uchafswm capasiti’r llwyth gwynt.   Rhaid i’r cynllun gael ei fonitro gan berson cymwys yn erbyn terfynau gweithredu pob un o’r strwythurau dros dro.   Rhaid cymryd camau effeithiol cyn rhagori ar unrhyw derfynau gweithredu.

Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch- enghreifftiau

Strwythurau bychain

Rhaid i strwythurau llai, sy’n cynnwys gazebos, stondinau wedi’u gorchuddio, ambarelau, arwyddion ac ati gael eu diogelu neu eu sadio’n ddigonol. Ni ddylid tanbrisio’r risg a achosir gan y strwythurau bach hyn achos gall y gwynt effeithio’n sylweddol arnynt (gwiriwch y cyflymderau gwynt cyfartalog a ragwelir a’r cyflymderau gwynt a ragwelir ar gyfer diwrnod y digwyddiad).  Rydym yn disgwyl cofnod yn eich asesiad risg sy’n nodi’r risg hwn ac yn manylu ar eich mesurau lliniaru.

Pebyll mawr

Ar gyfer pebyll a phebyll mawr, argymhellir bod y contractwr yn aelod o MUTA neu sefydliad cyfatebol (i gael rhagor o wybodaeth darllenwch y Canllaw Arfer Gorau Defnyddio a Gweithredu Strwythurau Ffabrig Dros Dro Datgymaladwy yn Ddiogel.

Strwythurau Gwynt

Gweler Cyfarpar Gwynt

Ffeiriau a Difyrion

Gweler Reidiau Ffair a Difyrion

Stondinau/Llwyfannau Dros Dro

Mae angen gwneud cais i’r Adran Rheoli Adeiladu ar gyfer Stondinau / Llwyfannau Dros Dro a gaiff eu defnyddio gan 20 neu fwy o bobl, dan Adran 27 Deddf Sir De Morgannwg 1976 (mae manylion ar y wefan rheoli adeiladu).

Rhwystrau / Ffensys

Rhaid i rwystrau fod yn addas at y diben a gallu gwrthsefyll y pwysau cymhwysol boed hynny gan wynt neu bwysau torf.

Lle disgwylir pwysau gan gynulleidfa e.e. o flaen y llwyfan mewn cyngherddau pop, bydd angen rhwystr blaen llwyfan wedi’i adeiladu’n briodol.

Dogfennau

Dylech wneud copïau o’r dogfennau ar gyfer eich strwythurau a dylech eu cyflwyno i’r Panel Cyswllt Digwyddiadau.  Dylech gyflwyno cyfrifiadau dylunio manwl a lluniadau ar gyfer pob strwythur o flaen llaw a dylent hefyd fod ar gael i’w harchwilio ar y safle.

Efallai y bydd angen Cynllun y Cyfnod Adeiladu .

Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys yr wybodaeth y bydd ei hangen ar y peiriannydd strwythurol sy’n rhan o’r Panel Cyswllt Digwyddiadau. Darperir lluniadau a chyfrifiadau dylunio manwl gan gynnwys unrhyw ofynion sadio / ffyn a’r cyflymderau gwynt mwyaf a ganiateir ar gyfer y strwythurau dros dro canlynol:

  • Pebyll mawr – mwy na 25m2
  • Llwyfannau – mwy na 25m2
  • Pob sgrin
  • Rhwystrau – Rhwystrau blaen llwyfan, rhwystrau torf cadarn neu baneli rhwyll gyda sgrim.
  • Nenbontydd a Rigio – Unrhyw strwythur sydd wedi’i gynllunio i gynnal goleuadau, uchelseinyddion neu offer uchel arall.
  • Strwythurau sgaffaldau e.e. llinellau cychwyn/gorffen ras, arwyddion a rampiau byrddau sglefrio
  • Stondinau a Llwyfannau Eistedd Cynulleidfa – Pob Un
  • Tyrau Llwyfan/Goleuadau – Pob Un
  • Unrhyw strwythur arall – ar gais

I gael rhagor o wybodaeth benodol am rwystrau, gweler y Canllaw Diogelwch Digwyddiadau (HSG195) a chyhoeddiad Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Canllawiau Strwythurau Dros Dro Datodadwy ar gaffael, dylunio a defnyddio. (Trydydd Argraffiad) (2007).

Ymweliad Safle

Gall Peiriannydd Strwythurol Cyngor Caerdydd fynychu safle i gynnal arolwg gweledol ar y strwythurau dros dro a ddefnyddir yn eich digwyddiad.  Mae hwn yn wasanaeth y codir tâl amdano.  Mae hyd at £180 +TAW o dâl amser wedi’i gynnwys yn eich ffi llogi.  Rydym yn cadw’r hawl i godi tâl arnoch am gostau yr eir iddynt sy’n uwch na’r swm hwn oherwydd methiant i ddarparu set gyflawn o ddogfennau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda’r swyddog/lleoliad Panel Cyswllt Digwyddiadau perthnasol.  Dylai’r sawl sydd â chyfrifoldeb cyffredinol penodol am strwythurau dros dro fod ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn.

Caiff y gofynion penodol gennych chi o ran strwythurau eu cadarnhau unwaith y deellir eich cynigion penodol eich digwyddiad.

Sylwch na chaniateir newid y strwythurau a gynigioch heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad fydd diogelwch a sicrhau y bodlonir gofynion rheoleiddiol yn y pen draw.

Canllawiau ar bob digwyddiad