Goruchwylydd Safle

Cyhoeddwyd 14th Ebr, 2020

Gall Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau benodi Goruchwylydd Safle i oruchwylio gweithgareddau eich digwyddiad ar y safle ac i ddiogelu buddiannau Adran y Parciau a’r Cyngor.  Bydd Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau yn penderfynu a fydd gofyn cael Goruchwyliwr Safle y Cyngor wrth asesu eich cais, ond fel arfer bydd angen un ar bob digwyddiad gydag unrhyw seilwaith, gweithgareddau neu symudiadau cerbydau sylweddol.

Er mwyn i ni drefnu’r staff angenrheidiol ar gyfer eich digwyddiad mae’n hanfodol eich bod yn rhoi drafftiau rhesymol gywir i ni o’ch Cynllun Safle a’ch Amserlen Gynhyrchu a Rhestr Gerbydau cyn gynted â phosibl. Bydd eu hangen arnom i asesu’r amseroedd a’r diwrnodau y bydd angen Goruchwylydd Safle drwy gydol eich cyfnod llogi.

Bydd Goruchwylydd y Safle yn rhoi cymorth logistaidd ar y safle i chi e.e. datgloi gatiau’r lleoliad, rhoi mynediad i BŵerDŵrArwyddionbaneri herasmatiau trac a.y.b. Bydd yn ddolen gyswllt ar y safle rhyngoch a Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau i ddatrys problemau.

Bydd Goruchwylydd y Safle hefyd yn gyfrifol am gynnal yr arolygiad safle cyn ac ar ôl y digwyddiad a darparu tystiolaeth i Reolwr Digwyddiadau’r Parciau er mwyn i hwnnw asesu a fydd angen gwneud didyniadau o’ch bond .

Rôl Goruchwylydd y Safle a’n disgwyliadau:

  • Sleidiau Sefydlu Safle Parc Bute
  • Sleidiau Sefydlu Safle Gerddi Sophia;

Taliadau

Sylwer y codir tâl am wasanaethau (oni chytunir fel arall).  Byddwch yn cael eich anfonebu am gost Goruchwylydd y Safle (o leiaf 4 awr o alwad allan) ar ôl eich digwyddiad yn seiliedig ar y taflenni amser a gyflwynir.

Diwrnod6am – 8pm £16.36
Gyda’r nos8pm – 6am £21.17
PenwythnosHanner nos, nos Wener tan hanner nos, nos Sul £23.60
Gŵyl y Banc Hanner nos, nos Sul tan hanner nos, nos Lun £30.90

Os yw eich digwyddiad yn mynd yn hirach na’r amserlen a gyflwynoch, neu os gadewch offer ar y safle i’w gasglu y diwrnod canlynol (toiledau, rhwystrau/ffensys ac ati), neu os yw hi’n mynd yn rhy hwyr i wneud archwiliad safle/trosglwyddiad terfynol boddhaol, byddwch yn cael eich bilio am yr oriau ychwanegol sy’n angenrheidiol (o leiaf 4 awr) i’r Goruchwylydd Safle ddychwelyd y diwrnod canlynol.

Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod cynrychiolydd addas o dîm eich digwyddiad yn cwblhau’r ffurflen derfynol gyda Goruchwylydd y Safle pan fo’r holl weithgareddau a’r casgliadau wedi eu cwblhau, gan y bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio i benderfynu pa ddidyniadau, os o gwbl, y bydd angen eu cymryd o’ch bond.

Digwyddiadau bach

Ar gyfer digwyddiadau llai, gwnewch drefniadau ynghylch mynediad i safle eich digwyddiad cyn eich digwyddiad. 

Bydd staff Parc Bute neu Geidwad Parc Bute yn ymweld â chi a bydd yn sicrhau bod ein telerau ac amodau llogi yn cael eu cynnal, ac yn rhoi cyngor a chymorth i chi ar y safle.

Canllawiau ar bob digwyddiad