Amserlen Gynhyrchu a Rhestr Gerbydau

Cyhoeddwyd 22nd Ebr, 2020

Dylai pob digwyddiad ddarparu Amserlen Gynhyrchu a Rhestr Gerbydau gyda lefel briodol o fanylder ar gyfer cyfnod llawn y digwyddiad. Yn dibynnu ar raddfa neu gynllun eich digwyddiad, bydd angen lefel benodol o reoli traffig.

Dylai eich Rhestr Ddigwyddiadau a Cherbydau gwmpasu’r HOLL weithgareddau allweddol fydd ar y safle o’r adeg y byddwch yn cymryd meddiant i’r adeg y byddwch chi/eich seilwaith diwethaf yn gadael.  Yn bwysig, rhaid iddi nodi pa gerbydau (math a maint) sy’n mynd i mewn i’r parc a pha bryd. 

Mae’r Atodlen hon yn ein galluogi i ddeall eich digwyddiad yn gywir ac, os oes angen, archebu cymorth Goruchwylydd Safle priodol.

Dylid cynnwys drafft gyda’ch Cais Rhan 1.

Cofiwch, oherwydd digwyddiad rheolaidd y Park Run (tua 600 o redwyr yr wythnos ar gyfartaledd) http://www.parkrun.org.uk/cardiff/course/ ni ellir symud cerbydau y tu mewn i Barc Bute rhwng y bont mynediad i gerbydau a phen uchaf Cae Cooper rhwng 09.00 a 09.45am ar Ddydd Sadwrn.

Sylwch na chaniateir newidiadau yn eich rhestr ddigwyddiadau/cerbydau heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

 Ystyriwch:

Canllawiau ar bob digwyddiad