Mynediad i safle eich digwyddiad

Cyhoeddwyd 3rd Chw, 2020

Bydd angen i chi wneud trefniadau ar gyfer mynediad i safle eich digwyddiad.

Digwyddiadau bach

Mae’n ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad wneud trefniadau i gasglu (a dychwelyd) allweddi/cardiau sweipio o’r Ganolfan Ymwelwyr  cyn eich digwyddiad:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9am – 5pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul 12pm – 3pm
  • Cwrdd â Cheidwad Parc Bute ar y safle (ar ôl cytuno o flaen llaw)

Digwyddiadau mawr

Mae’n ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad gwrdd â’r Goruchwyliwr Safle ar y safle awr cyn y gweithgaredd cyntaf a gynlluniwyd ar gyfer cynnal archwiliad safle cyn y digwyddiad ac i gwblhau Cyfarfod Trosglwyddo.  Dylech gynnwys yr apwyntiad hwn yn eich Rhestr Cynhyrchu a Cherbydau.

Dylid trefnu Cyfarfod Dychwelyd hefyd ar eich diwrnod olaf ar y safle yn dilyn y casgliadau terfynol.

Canllawiau ar bob digwyddiad