Diogelwch, Stiwardio ac ADD

Cyhoeddwyd 4th Mai, 2020

Stiwardiaid a marsialiaid

Disgwylir i bob Trefnydd Digwyddiadau fod â chynlluniau cynhwysfawr a digon o staff ar waith cyn y digwyddiad i fynd i’r afael â’r canlynol:

  •  Gweithdrefnau a chynlluniau gwacáu’r safle mewn Argyfwng
  • Diogelwch ar y safle – cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
  • Darparu stiwardiaid (a gweithwyr diogelwch trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, os oes angen)
  • Traffig sy’n dod i mewn i’r parc
  • Parcio Ceir
  • Mynediad i’r parc y tu allan i’r oriau arferol

Nid oes angen trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar stiwardiaid a marsialiaid ar yr amod mai dim ond gwirio tocynnau a/neu arwain y cyhoedd yw eu swyddogaeth.  Byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi rhifau a lleoliadau’r stiwardiaid ar eich cynllun safle.

Diogelwch Dros Nos

Disgwylir bod gan bob Trefnydd Digwyddiadau gynlluniau cynhwysfawr a digon o staff ar waith cyn y digwyddiad i fynd i’r afael â diogelwch y safle yn ystod y gwaith adeiladu, adeg egwyl a thrwy gydol y digwyddiad byw yn ogystal â dros nos.

ADD

Pan fo’n ofynnol bod gan ddigwyddiad  drwydded safle a’i fod yn ei gweithredu, neu hysbysiad digwyddiad dros dro o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac mae cyfrifoldebau person yn cynnwys rheoli mynediad, troi pobl allan neu chwilio bagiau, yna bydd angen Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD) arnynt.

Mae’n ofynnol i holl staff ADD wisgo eu bathodyn bob amser. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad yw sicrhau bod bathodynnau ADD staff yn ddilys ac yn gyfredol. Gweler Bolardiau Rheoli Mynediad
Gweler Adrodd am Ddigwyddiadau Bolard
Gweler Gweithgarwch Trwyddedadwy
Gweler Parcio
Gweler Rhestr Cynhyrchu a Cherbydau
Gweler Diogelwch, Stiwardio ac ADD

Canllawiau ar bob digwyddiad