Adroddiad Digwyddiad Bolardiau

Cyhoeddwyd 3rd Ebr, 2020

Cyn eich digwyddiad dylech ddatblygu gweithdrefnau i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn rhag ofn y bydd mater yn codi sy’n gysylltiedig â’r parc.

Os digwydd problem â bolardiau, rhaid i chi adrodd hyn wrth  Dîm Parc Bute yn syth gyda ffotograffau fel y gellir uwchgyfeirio’r sefyllfa os oes angen.

Mae canllaw ar gael ar weithredu Bolardiau Parc Bute yn ddiogel

Llenwch adroddiad ar achos, mae’n hanfodol bod y wybodaeth ganlynol yn cael ei chofnodi:

  • Dyddiad
  • Amser
  • Enw’r person sy’n cofnodi’r achos:
  • Enw’r gyrrwr
  • Enw’r cwmni
  • Cyfeiriad y gyrrwr/cwmni
  • Rhif ffôn symudol y gyrrwr
  • Rhif cyswllt y cwmni
  • Math a model y cerbyd
  • Rhif cofrestru   
  • Enw’r cwmni yswiriant
  • Tynnwch luniau yn dangos y difrod i’r bolard a’r cerbyd
  • Rhowch fanylion cyswllt unrhyw lygad-dystion.

Sylwch: Mae isafswm ffi weinyddol o £50+TAW yn dilyn problem â bolardiau. Codir anfoneb ar gyfer costau adenilladwy i dalu am unrhyw waith atgyweirio a chostau galw allan.Dylid rhoi gwybod i staff Parc Bute am unrhyw achosion cyn gynted â phosibl:
Gweler Cysylltwch â’r Parc
Gweler Ffurflen Adrodd am Achosion
Gweler Ymateb i Arllwysion

Canllawiau ar bob digwyddiad