Arwyddion Modd Digwyddiadau

Cyhoeddwyd 13th Hyd, 2021

Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion diogelwch dwyieithog y gellir eu defnyddio ar draws y safle pan fydd y parc mewn ‘modd digwyddiadau’.  Mae hyn er gwybodaeth i ddefnyddwyr y parc a staff a gyrwyr y digwyddiad. 

Mae’r arwyddion yn ddwyieithog a byddwn yn darparu map yn dangos i chi lle y dylid eu gosod.  Trafodwch osod yr arwyddion gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau a/neu Oruchwyliwr y Safle.Anfonwch aelod o’ch tîm i gasglu’r rhain o Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute.  Dylid casglu’r arwyddion a’u dychwelyd ar ddiwedd eich digwyddiad. 

ArwyddLliw’r Arwydd
Nifer sydd ar gael
5mya Gwyn3
Stopiwch ac Arhoswch Coch2
Gofal Cerddwyr Coch5
Safle’r Digwyddiad (saeth i’r chwith) Coch 2
Safle’r Digwyddiad (saeth i’r dde) Coch 1
Gofal cerbydau digwyddiadau Gwyrdd2
Llwybr o’ch blaen wedi cau Gwyrdd4
Gwyriad (saeth i’r chwith) Gwyrdd1
Gwyriad (saeth i’r dde) Gwyrdd 2
Gwyriad (saeth ddwbl) Gwyrdd4

Gweler Rheoli Traffig

Canllawiau ar bob digwyddiad