Dŵr

Cyhoeddwyd 22nd Gor, 2021

Dylai trefnwyr y digwyddiad ystyried darparu dŵr yfed diogel fel rhan ohono, cyn gynted â phosibl.

Byddem yn eich annog i leihau’r defnydd o blastig yn eich digwyddiad ac ystyried dewisiadau amgen i ddosbarthu poteli unigol o ddŵr.

Mae gan rai safleoedd ddŵr o’r prif gyflenwad; cyfeiriwch at bob safle digwyddiadau am wybodaeth. Cyfeiriwch at y cynlluniau safle penodol i weld lleoliad gwasanaethau tanddaearol.

Digwyddiadau bach

Mae darparu dŵr yfed yn bwysig ym mhob digwyddiad.

Gall methu â darparu ffynhonnell ddiogel o ddŵr yfed yn y cyfeintiau priodol ar gyfer digwyddiad arwain at ganlyniadau sylweddol.

Digwyddiadau mawr

Yn gyffredinol, dylid darparu’r holl ddŵr o’r prif gyflenwad, ond os nad yw hyn yn bosibl yna mae bowserau neu ddŵr yfed potel yn dderbyniol.  Gellir defnyddio’r prif gyflenwad hefyd ar gyfer tanciau balast, toiledau a chyfleusterau cawod ac ati.

Mae Trefnydd y Digwyddiad yn ymrwymo i ad-dalu cost ei ddefnydd o ddŵr, y tu hwnt i’r hyn a gwmpesir gan bolisi “defnydd teg” y Cyngor oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig ar adeg cadarnhau’r archeb.

Mae’r 30 metr ciwbig cyntaf (30,000 litr) o ddŵr yn gynwysedig yn ffi trwydded y safle. Codir tâl o £1.61 am bob metr ciwbig (m3) o ddŵr a ddefnyddir yn ychwanegol at y cyfaint hwnnw, yn ogystal â ffi weinyddol arferol o £25. Bydd angen i ddarlleniadau mesuryddion gael eu cymryd cyn ac ar ôl y digwyddiad a’u cymeradwyo gan y goruchwyliwr safle.

Prif Gyflenwad Dŵr

Gall Trefnydd y Digwyddiad ofyn am gysylltiad â chyflenwad dŵr y Parc a systemau draenio’r prif gyflenwad.  Bydd yr holl safbibelli, peiriannau pwmpio, gorchuddion tyllau agored a systemau draenio yn cael eu diogelu er mwyn gwrthod mynediad i bawb ac eithrio gweithwyr neu Asiantau cymwys a chymwysedig.

Rhaid i drefnydd y digwyddiad sicrhau bod cynlluniau argyfwng ar waith pe bai’r cyflenwad dŵr yn cael ei golli, a allai gynnwys bowserau neu ddŵr potel.  Gall methu â darparu ffynhonnell ddiogel o ddŵr yfed yn y cyfeintiau priodol ar gyfer digwyddiad arwain at ganlyniadau sylweddol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau ar gyfer rheoli a darparu dŵr dros dro yn ddiogel gan ddefnyddio BS 8551:2015 Darparu a rheoli cyflenwadau dŵr dros dro a rhwydweithiau dosbarthu (heb gynnwys darpariaethau ar gyfer argyfyngau statudol) Cod Ymarfer.

Dylai’r holl offer dosbarthu dŵr fod yn lân, wedi’i gynnal a’i gadw’n dda ac yn addas.  Pan fydd angen cysylltu â dŵr o’r prif gyflenwad, rhaid i’r cysylltiad hwnnw, y pibellau a’r ffitiadau dŵr gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 a’r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan Ddŵr Cymru Welsh Water a bydd angen archwiliad gan Arolygydd DCWW cyn i’r digwyddiad ddechrau.

Rhaid i drefnydd y digwyddiad ddiheintio a fflysio’r holl bibellau a ffitiadau dŵr cyn samplu a phrofi dros dro y cyflenwad dŵr ar gyfer diogelwch bacteriolegol, yn enwedig y rhai a ddarperir ar gyfer digwyddiadau awyr agored.

Bydd unrhyw drefnydd digwyddiadau sy’n dymuno defnyddio’r cyflenwadau dŵr presennol naill ai yng Nghae Cooper neu Erddi Sophia yn gyfrifol am drefnu profion ar y cyflenwadau hyn. Rhaid cynnal profion o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad er mwyn caniatáu amser i dderbyn y canlyniadau, a chymryd camau unioni, os oes angen.

Anogir trefnwyr digwyddiadau i gysylltu â Rheoli Llygredd a DCWW am gyngor gyda chyflenwad dŵr dros dro cyn gynted â phosibl wrth gynllunio digwyddiad.

Dylai dogfennau eich digwyddiad:

  • gynnwys rhestr o’r holl ddefnydd(iau) o ddŵr a fwriedir
  • nodi’r math o gysylltiad (Prif bibell, Preifat, Bowser neu Gyflenwad Tanc)
  • dangos rhwydwaith dosbarthu’r cyflenwad dŵr a nodi lleoliad y pwyntiau defnydd (e.e. tai bach, basnau golchi dwylo a chawodydd, pwyntiau yfed dŵr, paratoi bwyd)

Darparu asesiad risg o’r trefniadau cyflenwi dŵr:

  • rhestru ac asesu risgiau posibl y safle a allai achosi halogi’r cyflenwad dŵr neu gyflenwad dwr annigonol
  • amlinellu’r mesurau i’w cymryd i reoli neu atal y risgiau hyn
  • rhestru’r gwiriadau a’r gweithdrefnau monitro i’w cyflawni i sicrhau bod y mesurau rheoli hyn ar waith e.e. samplo ac arolygu parhaus
  • diffinio’r camau gweithredu i’w cymryd os bydd y mesurau hyn yn methu

Cyflwyno datganiad dull i ddisgrifio:

  • delio ag achosion o halogi
  • methiant y cyflenwad dwr
  • manylion derbyn a dosbarthu cyflenwadau dŵr eraill

Cynghorir y dylid cyflwyno Tystysgrifau Diheintio ar gyfer yr holl bibellau a ffitiadau dŵr dros dro i leihau’r posibilrwydd o halogi’r cyflenwad dŵr.

Dylid cymryd samplau dŵr i gadarnhau bod yr holl bibellau a ffitiadau dros dro wedi’u diheintio ac nad yw ansawdd y dŵr lle caiff ei ddefnyddio yn peryglu iechyd y cyhoedd. Os bydd canlyniadau microfiolegol yn annerbyniol, gall Rheoli Llygredd roi cyngor ar gamau unioni posibl.

Dŵr Gwastraff

Gweler Dŵr Gwastraff

Gweler Adrodd am Ddigwyddiad

Canllawiau ar bob digwyddiad