Cynllun y Safle

Cyhoeddwyd 8th Ebr, 2020

Gofynnwn i chi gyflwyno cynllun safle manwl ar gyfer eich digwyddiad.

Dylid llunio’r cynllun hwn i raddfa a dangos pob elfen o seilwaith safle eich digwyddiad: ffensys, deunydd diogelu’r ddaear, strwythurau, pŵer, goleuadau ac ati.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu cynlluniau ychwanegol i ddangos golygfa ehangach ar y parc yn ogystal â’ch cynllun penodol i’r safle.  Efallai y bydd angen gwneud hyn er mwyn dangos cynllun goleuadau argyfwng, cynllun stiwardio, rheoli’r dorf, rheoli gwastraff ac ati.

Dylech gynnwys drafft gyda’ch Cais Rhan 1.

Sylwch na chaniateir newid eich cynllun safle heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

Mae cynlluniau sylfaenol ar gael, cyfeiriwch at bob safle digwyddiad am wybodaeth neu cysylltwch â Swyddog Digwyddiadau Parc Bute.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu Cynllun Llwybr ar gyfer digwyddiadau rhedeg a cherdded.

Canllawiau ar bob digwyddiad