Map Ffordd

Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020

Rydym yn gofyn i chi gyflwyno map llwybr ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau cerdded neu redeg.  Dylid llunio’r cynllun hwn i raddfa a dangos llwybrau digwyddiad cyflawn.

Cynllunydd llwybr hawdd: https://www.mapometer.com/

Efallai y bydd angen i chi ddarparu mapiau ychwanegol i ddangos cynllun stiwardio neu safleoedd marsialiaid.

Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau’r Parciau i ddefnyddio llwybrau y tu allan i Barc Bute, mewn ymgynghoriad â chydweithwyr e.e. Caeau Pontcanna neu Daith Taf.

Efallai y bydd angen caniatâd arnoch gan dimau eraill y cyngor ar gyfer llwybrau ledled y ddinas.

O ran y ffyrdd eraill ar eich llwybr rhaid i chi gysylltu â Traffig a Thrafnidiaeth er mwyn trefnu mynediad, efallai y codir tâl am y gwasanaeth hwn. Os bydd llwybr eich ras yn syrthio y tu allan i’r parc ar Rodfa’r Gorllewin yna mae’n rhaid i chi gael caniatâd yr adran Briffyrdd.

Dylech gynnwys drafft gyda’ch Cais Rhan 1. Sylwch na chaniateir newid eich cynllun safle heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

Canllawiau ar bob digwyddiad