Mynediad i Safle Castell Caerdydd

Cyhoeddwyd 29th Maw, 2021

Mae’n hanfodol bod digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Castell Caerdydd yn cysylltu â Pharc Bute cyn gynted â phosibl i ofyn am fynediad drwy’r parc.  Mae perfformiadau digwyddiadau a gynhelir yng Nghastell Caerdydd yn denu costau ychwanegol os oes angen defnyddio Parc Bute arnynt, h.y. ar gyfer llwybrau gwasanaeth digwyddiadau, llwybrau mynediad i gynulleidfaoedd a/neu  ardaloedd cynhyrchu cefn tŷ.

  • Llwybrau gwasanaeth digwyddiadau
  • Llwybrau mynediad i’r gynulleidfa i giât ogleddol y castell
  • Ardaloedd cynhyrchu cefn tŷ
  • Pwyntiau allanfeydd brys
LleoliadGoogle Map
Trwydded SafleMae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute
Cyflenwad pŵer ar y safleDim – datgomisiyniwyd yn 2017
Ffi LlogiFfi Llogi
Cyflenwad dŵr ar y safle
Oes – Yn amodol ar bolisi defnydd teg
6 x lleoliad
Carthffosiaeth
Dim
Tanc septig (3,500 galwyn) – datgomisiyniwyd yn 2022
ToiledauDim
Mae’r cyfleusterau parc agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi’r Ardd Gudd – nid ydynt yn addas i’w defnyddio gan y rhai sy’n mynd i’r digwyddiad.
Llinellau ffôn/ISDNDim – datgysylltwyd yn 2019
Cysylltiad DataMae’n bosibl dod â data i Gae Cooper drwy bwynt cysylltu ym mastiwn gogledd-orllewinol Castell Caerdydd. Gall hyn fod drwy wifren galed i’r cae neu drwy ei drosglwyddo fel signal Wi-Fi.

Ystyriaethau Eraill

LlifogyddMae Cae Cooper yn orlifdir ac er bod afon Taf wedi’i diogelu’n dda gan gynllun amddiffyn rhag llifogydd y 1980au, mae Camlas Gyflenwi’r Dociau ar lefel uwch na Chae Cooper ac mewn tywydd garw iawn gallai orlifo i’r cae. Mae hyn yn llawer mwy tebygol yn ystod misoedd y gaeaf, sy’n rheswm arall pam nad yw digwyddiadau fel arfer ond yn cael eu cynnal o fis Ebrill i fis Medi. Gallai hyn fod yn anodd ei ragweld neu ei atal a gallai arwain at golledion sylweddol oherwydd “Force Majeure” i Drefnwyr Digwyddiadau.
CloddioMae rhai rhannau o Gae Cooper yn sensitif yn archeolegol ac yn cynnwys gwreiddiau coed felly ni chaniateir unrhyw gloddio. Rhaid i unrhyw waith cloddio fod gyda chaniatâd penodol Rheolwr y Digwyddiad ac efallai y bydd angen briff gwylio archeolegol o dan amodau Cadw.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia.

Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi’u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i leoliadau cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd newydd a’r preswylfeydd ar Heol y Gadeirlan.

National Express yng Ngerddi Sophia
Ystafelloedd Te Pettigrew
Stadiwm Principality
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Gerddi Sophia Caerdydd, Stadiwm Criced
Chwaraeon Cymru

Mynediad at y safle

Mynedfa i GerddwyrY mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
– Bont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, o’r dwyrain)
– Porth Gogleddol y Castell (o Heol y Gogledd, y Ganolfan Ddinesig, o’r de-ddwyrain)
– Porth y Gorllewin (o Stryd y Castell, o’r de)
– ont y Mileniwm (o Erddi Sophia, o’r gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/LlwythMae mynediad cerbydau i’r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau.

Mae’r bont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyflenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy’n dod i mewn a gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd wasanaeth ar gyfer prif ddigwyddiadau tua’r de.

Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o ‘gardiau sweipio’ er mwyn gallu rheoli traffig yn ymwneud â’ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio’r system rheoli bolardiau yn ddiogel.

Bydd stiwardiaid/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai’r rhain fod mewn cysylltiad radio â’i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc.

Mae dau fan troi glaswellt siâp morthwyl ar Gae Cooper – un yn y pen gogleddol ac un yn y pen deheuol yn ogystal â dwy gilfan laswellt gyferbyn â nhw. Mae’r rhain yn darparu ‘safleoedd caled’ lle gellir troi cerbydau digwyddiadau a’u dadlwytho. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sy’n troi ar y safle. Gall peidio â gwneud hyn niweidio’r glaswellt yn ddiangen a’ch gadael yn atebol i dalu costau adfer.

Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i’r glaswellt i gerbydau sydd â llwyth sy’n fwy na phum tunnell.

Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn/tâp perygl) mewn ardaloedd sy’n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy’n mynd ar hyd y llwybrau. Gweler y cynllun safle i gael canllaw.

Mae rhai ardaloedd ‘dim mynediad’ yn gyfagos â’r safle digwyddiad a rhaid diogelu’r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl yn sgil eich digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canopïau coed yn gyffredinol, y Gored Ddu ac ati]

Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion ‘modd digwyddiad’ er mwyn helpu i reoli traffig digwyddiadau pan fo’r niferoedd yn sylweddol.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio CDM

Mae system rheoli bolardiau awtomatig ger Pont Fynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ei ddefnyddio’n ddiogel ar gael.

Mae cyfyngiad cyflymder 5 mya ar gyfer cerbydau yn y parc

Ni all cerbydau droi i’r dde i mewn nac allan o’r parc wrth y bont cerbydau

Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r bont fynediad i gerbydau ger mynedfa’r parc – mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau wrth fynd i mewn i’r parc a’i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gynorthwyo cerbydau sy’n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig

Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Droed y Mileniwm, sy’n croesi’r prif fynediad i gerbydau i Gae Cooper.

Gall y parc fod yn brysur. Fe’i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent fod yn rhannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau’r digwyddiad.

Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau.

Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd c ar y glaswellt.

Mae’r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi ynddo neu ddod i mewn ar ôl cloi drwy lwybrau answyddogol.

Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.

Nid oes goleuadau yn y parc ac mae’n dywyll iawn ar ôl machlud yr haul.

Mae’r parc ehangach y tu allan i safle’r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi’u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Addysg yng nghanol y parc. Mae’r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu â cheidwad, dylech gysylltu â Rheolwr y Parc yn y lle cyntaf

Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli’r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.

Mae safle Cae Cooper wedi’i farcio â chyfres o “Foron” lliw sy’n dangos terfyn allanol y safle a’r ardal gwarchod gwreiddiau (melyn), ceblau BT (coch) a dŵr (glas).

Mae gwasanaethau tanddaearol ar y safle digwyddiadau hwn. Nodir y rhain ar gynllun sylfaen yr ardal ddigwyddiadau, lle bo’n hysbys ond nid yw’r Lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb llawn cynlluniau gwasanaeth. Efallai nad yw gwasanaethau wedi’u claddu ar ddyfnderoedd sy’n cydymffurfio â’r safonau presennol. Rhaid i chi roi gwybod i swyddfa Rheolwyr y Parc a gofyn am ganiatâd i dorri unrhyw dir.

Y Prif Gontractwr sydd yn gyfrifol am wneud cais am chwiliadau RASWA (Deddf Ffyrdd a Gwaith Stryd) cyfredol a nodi presenoldeb gwasanaethau (e.e. sganio CAT) os yw’n bwriadu torri tir yn y Lleoliad neu o’i amgylch. Gall y Lleoliad gael gafael ar chwiliadau RASWA ar gais.

Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar gyfer staff digwyddiadau ar hyn o bryd. Mae toiledau sydd wedi’u lleoli yng nghaffis y parc ar gael i staff/cyfranogwyr digwyddiadau at ddefnydd ysgafn yn unig.

Canllawiau ar bob digwyddiad