Sbwriel

Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod y safle’n cael ei adael a’r holl sbwriel wedi ei glirio ar ôl cwblhau’r digwyddiad a bydd yn gyfrifol am gasglu unrhyw sbwriel o’r lleoliad a thir cyfagos, y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r digwyddiad, e.e. taflenni, poteli plastig, casys tân gwyllt ac ati.

Mae sbwriel penodol yn achosi problemau gweithredol i Wasanaeth y Parciau, er enghraifft caeadau poteli plastig a allant fynd i mewn i’r ddaear dan draed neu waith metel a adawir ar ôl wedi adeiladu ffensys neu ar ôl coelcerth a all niweidio llafnau peiriannau torri lawnt.

Er mwyn atal difrod o’r fath, dylid gwerthu unrhyw ddiodydd mewn poteli plastig heb eu caeadau.

Ni chaniateir poteli na gwydrau gwydr oherwydd y gallant greu sbwriel peryglus.

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o gynllun cadarn ar gyfer casglu sbwriel fel rhan o’ch ffurflen gais fanwl. Os aiff y Cyngor i unrhyw gostau wrth gasglu sbwriel a gynhyrchir gan eich digwyddiad bydd y costau hyn yn cael eu didynnu o’ch bond.

Efallai y byddwch yn ystyried recriwtio gwirfoddolwyr neu gysylltu â sefydliadau lleol i’ch helpu i gasglu sbwriel. Yn y gorffennol mae grwpiau sgowtiaid lleol aC elusen Cadwch Gymru’n Daclus wedi cynorthwyo Trefnwyr Digwyddiadau i gasglu sbwriel. Os hoffech ystyried hyn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r sefydliadau’n uniongyrchol.

Dylid paratoi asesiad risg addas a digonol ar gyfer y gweithgaredd hwn a darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol.

Gweler Rheoli Gwastraff

Canllawiau ar bob digwyddiad