Rheoli Gwastraff
Cyhoeddwyd 14th Ebr, 2020Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod digon o finiau a sgipiau ar gael ar gyfer y digwyddiad.
Rhaid gorchuddio pob cynhwysydd gwastraff, gan gynnwys unrhyw sgipiau os cânt eu gadael heb eu goruchwylio, i atal bywyd gwyllt fel adar a gwiwerod rhag ymosod.
Ni ddylid gadael bagiau sbwriel allan mewn parc i’w casglu y diwrnod wedyn gan y byddant yn cael eu rhwygo ar agor gan fywyd gwyllt dros nos a chaiff y cynnwys ei wasgaru. Byddai Trefnydd y Digwyddiad yn gorfod talu am unrhyw ail-lanhau angenrheidiol mewn sefyllfa o’r fath.
Sicrhewch fod unrhyw arwyddion digwyddiadau dros dro a baneri yn cael eu tynnu i lawr cyn i chi adael safle.
Dylai Trefnydd y Digwyddiad sicrhau bod cymaint o wastraff â phosibl yn cael ei ailgylchu.
Ewch i Wefan y Gwasanaeth Gwastraff Masnachol i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau y gall y Cyngor eu cynnig ar gyfer eich digwyddiad.
Arlwyo
Rhaid i bob uned arlwyo symudol ddarparu biniau sbwriel wrth ymyl eu hunedau y mae’n rhaid eu gwagio’n rheolaidd yn ystod digwyddiad.
Gweler Arlwyo
Sbwriel
Gweler Sbwriel
Dŵr Gwastraff
Gweler Dŵr Gwastraff