Indemniad / Cyfyngiad Atebolrwydd Cyngor Caerdydd

Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020

Mae Trefnydd y Digwyddiad, wrth wneud cais am ddigwyddiad ac ymrwymo i gontract, yn cytuno i indemnio’r Cyngor ei swyddogion, cyflogeion, ei denantiaid, ei wahoddedigion, ei drwyddedeion a’i ymwelwyr rhag ac yn erbyn pob anaf personol (marwol ai peidio) ac eithrio anaf sy’n deillio o unrhyw weithred esgeulus gan y Cyngor neu ei weision neu asiantau, a’r holl golled neu ddifrod i eiddo sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o arfer yr hawliau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen a enwyd neu unrhyw un ohonynt ac yn erbyn pob atebolrwydd mewn perthynas â phob hawliad, galwad, achos, cost, iawndal a threuliau mewn perthynas â hynny ac na fyddai wedi codi pe na bai’r caniatâd i ddod i mewn neu i ddefnyddio’r eiddo neu’r cyfleusterau a enwyd wedi’i roi ac mae Trefnydd y Digwyddiad yn datgan y bydd Trefnydd y Digwyddiad yn gyfrifol am gael unrhyw ganiatâd ychwanegol sy’n ofynnol gan denantiaid neu Drwyddedeiau’r Cyngor mewn perthynas ag eiddo neu gyfleusterau’r Cyngor y mae’r indemniad hwn yn berthnasol iddynt.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am golli, difrodi na dwyn unrhyw offer neu effeithiau eraill sy’n gysylltiedig â’ch digwyddiad.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl am ganslo, oedi, cau neu golli enillion y digwyddiad, nac unrhyw golledion neu iawndal priodoladwy eraill a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.  Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ganslo digwyddiad oherwydd tywydd eithafol nac unrhyw Force Majeure. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i chi

gyflwyno Ffurflen Indemniad  wedi ei llofnodi o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn eich digwyddiad, gellir cynnwys hyn gyda Rhan 1 eich cais.

Canllawiau ar bob digwyddiad