Ymateb i Arllwysiadau
Cyhoeddwyd 7th Gor, 2021Cyn eich digwyddiad dylech ddatblygu gweithdrefnau i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn rhag ofn y bydd mater yn codi sy’n gysylltiedig â’r parc. Yn eich dogfennau manwl, cofnodwch pwy fydd yn darparu eich Pecyn Arllwysiadau ar y safle a phwy yw’r person sy’n gyfrifol am ddefnyddio hyn os oes angen.
Dylid adrodd am ddigwyddiadau wrth Staff Parc Bute cyn gynted â phosibl fel y gellir dwysáu’r sefyllfa os oes angen.
Gall arllwysiadau fel olew, diesel a thoiledau cemegol achosi difrod difrifol. Dylai eich cyflenwyr allu rhoi datganiad dull i chi i roi sicrwydd ynghylch y gweithdrefnau y maent yn eu hargymell ar gyfer defnyddio, storio a thrin cywir ac ati er mwyn atal arllwysiadau tanwydd, cemegau neu garthffrwd.
Ystyrir arllwysiadau fel digwyddiad llygredd boed hynny ar arwynebau caled (ffyrdd neu drac) neu feddal (glaswellt). Gall arllwysiadau deithio ar draws arwynebau caled a’u cyrydu cyn cyrraedd arwynebau meddal. Gall arllwysiadau dreiddio yn ddwfn drwy arwynebau meddal ac mae angen cloddio i gael gwared ar y problemau.
Er mwyn osgoi llygru’r parth gwreiddiau, ni chaiff unrhyw gemegau na thanwydd ac ati eu pentyrru na’u storio o dan orchudd unrhyw goeden.. Rhaid defnyddio hambyrddau diferu o dan eneraduron.
Llenwch adroddiad ar achos, mae’n hanfodol bod y wybodaeth ganlynol yn cael ei chofnodi:
- Dyddiad ac amser adrodd
- Digwyddiad ac amser y mater (os yw’n wahanol)
- Enw’r person sy’n cofnodi’r mater:
- Rhif ffôn symudol ac e-bost y sawl sy’n cofnodi’r mater
- Rhowch wybod beth yw math yr arllwysiad ac amcangyfrif o faint sydd.
- Tynnwch luniau sy’n dangos maint y difrod
- Rhowch fanylion cyswllt unrhyw lygad-dystion
Os oes arllwysiad ac angen gwasanaethau brys ymateb i arllwysiad arnoch yn y parc, mae Emergency Spill Clean Up (gptenvironmental.co.uk) / 01656 741 799 wedi bod o gymorth gwych i ni yn y gorffennol.
Gweler Adroddiad Digwyddiad Bolardiau
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cysylltu â’r Parc
Gweler Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiadau
Gweler Cynlluniau mewn Argyfwng