Gerddi Sophia

Cyhoeddwyd 29th Maw, 2021

Mae Gerddi Sophia yn barcdir rhestredig gradd II ar gofrestr parciau a gerddi hanesyddol Cadw. Mae’r parcdir i’r de o faes parcio talu ac arddangos Gerddi Sophia gyda mynediad i gerbydau drwy Glos Sophia, oddi ar Heol y Gadeirlan.

Bydd cyfnod gorffwys o 4-6 wythnos yn cael ei ychwanegu at y calendr argaeledd ar ôl digwyddiadau â seilwaith sylweddol neu sy’n cael effaith sylweddol ar y tir i ganiatáu i’r tir adfer.

Mae’r gofod digwyddiadau wrth ymyl safleoedd preswyl a busnes, gan gynnwys gwesty, felly bydd ceisiadau am ddigwyddiadau yn cael eu hasesu gan ystyried y tarfu posibl ar y rhain.

Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:

  • Teithiau cerdded / rasys /reidiau beic elusennol
  • Partïon preifat neu gorfforaethol
  • Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cyfyngedig /cymedrol
  • Digwyddiadau theatr awyr agored
  • Maes parcio gorlif mewn cysylltiad â digwyddiadau ym Mharc Bute neu Gastell Caerdydd
LleoliadGoogle Map
Maint4,000 metr sgwâr
MesuriadauTua: 79m x 52m
Cynllun y SafleMae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Gerddi Sophia
Ffi LlogiFfi Llogi
Cyflenwad pŵer ar y safleOes – Yn amodol ar bolisi defnydd teg
• 16 Amp cyfnod sengl 230 folt (x2)
• 32 Amp cyfnod sengl 230 folt (x2)
• 63 Amp 3 chyfnod + niwtral 400 folt
• 63 Amp cyfnod sengl 230 folt
Tystysgrif
Cyflenwad dŵr ar y safleOes – Yn amodol ar bolisi defnydd teg. 1 lleoliad
CarthffosiaethDim
ToiledauDim
Mae bloc toiledau cyhoeddus ym maes parcio Gerddi Sophia. Sylwch fod yr oriau agor i’r cyhoedd yn gyfyngedig. Ddim yn addas i’w ddefnyddio gan bobl sy’n mynd i ddigwyddiad.
Llinellau ffôn/ISDNDim
Cysylltiad DataDim

Ystyriaethau Eraill

Cyfansoddiad y tirMae’r tir yn cynnwys glaswellt wedi’i atgyfnerthu â ffeibr sydd wedi’i ddylunio i wrthsefyll difrod gan olwynion teiars. Mae’r cyfansawdd yn eithaf bas gyda chraidd caled islaw, felly ni ellir gosod pyst mwy na 0.5m i’r tir, felly efallai y bydd angen angorau balast dŵr i gynnal eich strwythurau.
Cymdogion a sŵnMae ardal ddigwyddiadau Gerddi Sophia gerllaw gwesty a llety preswyl.

Felly, mae’n rhaid i chi ystyried y niwsans sŵn a allai gael ei achosi gan eich digwyddiad, gan gynnwys yn ystod y cyfnod adeiladu a dadosod. O ran cwrteisi, byddem yn eich cynghori’n gryf i ymgynghori a chyfleu eich cynlluniau ymlaen llaw gydag eiddo cyfagos.

Defnyddir y maes parcio ceir, y maes parcio i fysus a’r ffordd fynediad i gynnig lleoedd parcio ar ddiwrnodau gêm fawr yn Stadiwm Principality, a gall achosi tarfu sylweddol ar fynediad i’r safle hwn.
GoleuoMae goleuadau yn y maes parcio, ond nid yn yr ardal ddigwyddiadau. Bydd angen goleuadau ychwanegol ar gyfer eich digwyddiad os bydd yn gweithredu ar ôl iddi dywyllu, neu os oes gennych staff sy’n gweithio ar y safle ar ôl iddi dywyllu.
FfensysGan fod yr ardal ddigwyddiadau mewn parc heb ei gloi yng nghanol y ddinas, bydd angen diogelwch a/neu ffens perimedr er mwyn diogelu eich offer, eich gwesteion a’ch staff.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia.

Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi’u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i leoliadau cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd newydd a’r preswylfeydd ar Heol y Gadeirlan.

Mynediad at y safle

Mynediad i GerddwyrY mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
• Stryd y Castell (i’r de)
• Parc Bute dros Bont y Mileniwm dros Afon Taf (i’r dwyrain)
• Clos Sophia a’r ‘lôn feingefn’ (i’r gogledd a’r gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/LlwythMae rhes o folardiau y gellir eu cloi a’u tynnu wedi’i lleoli ar hyd y ffin flaen (gorllewinol) i atal cerbydau heb awdurdod rhag defnyddio’r ardal ddigwyddiadau ac i alluogi newid y pwyntiau mynediad/gadael er mwyn lleihau difrod i laswellt. Mae 4 ‘gorsaf ddocio’ wag yn y pen deheuol i dderbyn y bolardiau a dynnwyd i’w cadw’n ddiogel. Gellir cael allweddi i dynnu’r bolardiau gan Oruchwyliwr y Safle.

Sylwch, nid oes mynediad i mewn nac allan i gerbydau ar Stryd y Castell / Heol Ddwyreiniol y Bont-faen drwy’r bolardiau a’r gatiau i’r de. Mae hyn at ddefnydd brys yn unig.

DS: Byddai digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality neu Stadiwm Criced Gerddi Sophia yn effeithio ar faes parcio Gerddi Sophia, felly byddai angen i unrhyw ddigwyddiad sy’n dymuno archebu’r lle hwn wirio dyddiaduron digwyddiadau’r stadia hyn yn gyntaf.
Mannau Parcio Agosaf i’r Trefnydd Digwyddiadau ac YmwelwyrGall ardal ddigwyddiadau Gerddi Sophia ei hun ddarparu ar gyfer hyd at 100 o leoedd. Caiff y rhain eu harchebu drwy’r dulliau ymgeisio arferol ar gyfer digwyddiadau.

Mae gan faes parcio Gerddi Sophia 320 o leoedd parcio talu ac arddangos yn y prif faes parcio ac ar hyd ‘lôn feingefn’ Gerddi Sophia, sy’n rhedeg ar hyd blaen (gorllewin) yr ardal ddigwyddiadau. Dylid archebu’r lleoedd hyn drwy Wasanaethau Parcio Adran Traffig a Thrafnidiaeth Cyngor Caerdydd.

Mae 9 lle bws gerllaw’r prif faes parcio. Mae’r rhain ar gael i’w defnyddio’n gyffredinol drwy’r peiriannau tocynnau talu ac arddangos.

Rhaid i chi drafod a threfnu defnydd o leoedd talu ac arddangos yn uniongyrchol gyda’r tîm Gwasanaethau Parcio ond gwnewch eich cyswllt o fewn yr Adran Parciau / Digwyddiadau yn ymwybodol o’r penderfyniadau, er gwybodaeth.

Oni bai eich bod yn cael gwybod yn glir fel arall, dylai trefnwyr digwyddiadau gymryd cyfrifoldeb llwyr am gyfathrebu â’r tîm Gwasanaethau Parcio ar bob mater sy’n effeithio ar leoedd parcio talu ac arddangos. Nid yw’r Rheolwr Digwyddiadau a Goruchwyliwr y Safle yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gyfathrebu na negodi rhwng y partïon. Gwneir hyn er mwyn cadw rolau a chyfrifoldebau a sianeli cyfathrebu priodol yn glir.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio yn ôl y Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Chynllunio)

  • Gall cyffiniau’r ardal ddigwyddiadau fod yn brysur. Fe’i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau eraill. Gallent rannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau’r digwyddiad.
  • Mae’r ardal ddigwyddiadau ar gael i gerddwyr ar bob adeg oni bai ei bod wedi’i ffensio’n ddiogel.
  • Gall parcio heb awdurdod rwystro cerbydau rhag cael mynediad i’r safle. Dylid sicrhau llwybrau mynediad ymlaen llaw i atal oedi.
  • Mae busnesau a phreswylfeydd preifat yn rhannu’r llwybr mynediad i gerbydau i’r ardal ddigwyddiadau.
  • Mae stiwardiaid traffig Cyngor Caerdydd yn cymryd dros maes pacio Gerddi Sophia a lleoedd talu ac arddangos ar hyd lôn feingefn Gerddi Sophia pan fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality/Stadiwm SWALEC. Cymerwch olwg ar Amserlen Digwyddiadau Dinas Caerdydd i weld a oes digwyddiadau’n gwrthdaro â’ch dyddiadau llogi.
  • Mae potensial ar gyfer troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y disgwylir mewn unrhyw barc yng nghanol y ddinas.
  • Nid oes goleuadau ar y safle ei hun ac mae’n dywyll ar ôl machlud yr haul.
  • Mae’r safle’n agos at fusnesau a phreswylfeydd preifat. Rhaid ystyried aflonyddwch sŵn ar y safleoedd cyfagos hyn a chynllunio ar ei gyfer i atal niwsans. Ystyriwch gysylltu â phreswylfeydd ar: Heol y Gadeirlan, Sophia Walk, Hamilton Street, Talbot Street, Teras Coldstream, Belgrave Court, Heol Isaf y Gadeirlan, West Lee, Green Street, Mark Street, Hen Dafarn Westgate
  • Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd a glaswellt.
  • Mae pŵer a dŵr ar gael ar y safle. Gall Rheolwr y Parc ganiatáu mynediad ar gais.
  • Mae gwasanaethau claddedig yn y Lleoliad ac o’i amgylch. Lle y bo’n hysbys, mae’r rhain wedi’u nodi ar gynllun sylfaenol yr ardal digwyddiadau.
    Fodd bynnag, nid yw’r Lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y cynllun hwn. Mae’r Prif Gontractwr yn gyfrifol am wneud cais am chwiliadau RASWA (Deddf Ffyrdd a Gwaith Stryd) cyfredol a nodi presenoldeb gwasanaethau (e.e. sganio CAT) os yw’n bwriadu torri tir yn y Lleoliad neu o’i amgylch. Gall y Lleoliad gyrchu chwiliadau RASWA ar gais.
  • Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar hyn o bryd.
Canllawiau ar bob digwyddiad