Safonau Masnach

Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020

Os yw’r digwyddiad arfaethedig yn cynnwys siopau neu stondinau yn gwerthu bwyd, diod neu nwyddau, yna gellir ei gyfeirio at Safonau Masnach.   Bydd Iechyd yr Amgylchedd hefyd am gael rhagor o wybodaeth.  

Gall swyddogion Safonau Masnach fynychu’r digwyddiad i gynnal archwiliadau er mwyn sicrhau masnachu teg yn unol â’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  1. Deddf Pwysau a Mesurau 1985, sy’n ei gwneud yn drosedd rhoi pwysau neu fesurau llai i gwsmeriaid
  2. Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 a Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982, sy’n ei gwneud yn ofynnol i nwyddau gyfateb i unrhyw ddisgrifiad a roddir, o ansawdd boddhaol ac yn addas at y diben
  3. Deddf Hawlfraint, Dylunio a Phatentau 1988 a Deddf Nodau Masnach 1974 sy’n gosod cosbau llym i’r rhai a gollfarnwyd am werthu nwyddau ffug
  4. Deddf Trwyddedu 2003, sy’n gwahardd gwerthu alcohol i bobl o dan 18 oed
  5.  Deddf Diogelwch Bwyd 1990 sy’n ei gwneud yn ofynnol i fwyd gydymffurfio â labelu a rheoliadau cyfansawdd, ac sy’n gwahardd presenoldeb unrhyw gyrff tramor.
  6.  Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005, sy’n ei gwneud yn ofynnol i nwyddau traul fod yn ddiogel i’w defnyddio gan ddefnyddwyr pan gânt eu gwerthu.
  7. Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid amaethyddol fod yn rhydd o glefydau, gyda’u symudiadau wedi’u rheoli, eu lles yn cael ei warchod, gan roi sylw arbennig i ddarparu bwyd a dŵr, digon o le, a lloches. 

Er y bydd masnachwyr unigol yn destun camau gorfodi os ydynt yn gweithredu’n anghyfreithlon, Trefnydd y Digwyddiad sy’n gyfrifol yn gyffredinol am sicrhau bod yr holl weithgareddau yn y digwyddiad yn cael eu cynnal yn unol â’r gyfraith.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach y Cyngor.

Gweler Alcohol
Gweler Anifeiliaid
Gweler Arlwyo
Gweler Panel Cyswllt Digwyddiadau 
Gweler Gweithgaredd Trwyddedadwy

Canllawiau ar bob digwyddiad