Goleuadau

Cyhoeddwyd 7th Gor, 2021

Bydd angen gwneud gwaith gosod goleuadau brys ar gyfer llawer o ddigwyddiadau, a bydd gwaith gosod o’r fath yn cael ei wneud yn unol â gofynion BS5266 a’r Canllaw Porffor.  Dylai’r system gynnwys pob rhan ofynnol o’r safle gan gynnwys yr holl lwybrau ymadael / dianc ac ardaloedd cadw eitemau er mwyn galluogi pobl i adael y safle i leoliad cytunedig neu’r Briffordd Gyhoeddus fel sy’n briodol.

Dylai fod gan bob llwybr ymadael / dianc ddwy ffynhonnell bŵer amgen fel bod y lefel goleuo ar hyd y llwybr yn parhau ar y lefel ofynnol os bydd methiant rhannol yn y system.  Os defnyddir goleuadau tŵr, caiff hwn ei osod a’i anelu’n gywir cyn agor y digwyddiad.  Bydd lefelau golau ar hyd y llwybrau a nodir yn cael eu mesur a’u plotio ar gynllun safle sy’n dangos bod lle digonol yn cael ei oleuo.

Darparwyd cynllun er gwybodaeth gyda lleoliadau colofnau goleuadau awgrymedig.  Mae hyn ar gyfer canllawiau yn unig ac NID yw’n diddymu cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad am gyflawni’r gofynion uchod.

Profion Goleuadau

Cyfrifoldeb trefnwyr digwyddiadau yw gwneud profion goleuadau a dylid cyflwyno canlyniadau i parcbute@caerdydd.gov.uk.  Gellir copïo Swyddogion eraill y Cyngor yn y neges yn ôl y gofyn.

Gweld Cynlluniau Argyfwng
Gweld  Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad
Gweld Pŵer
Gweld Ymateb i Arllwysiadau

Canllawiau ar bob digwyddiad