Darpariaeth i Bobl Anabl

Cyhoeddwyd 7th Chw, 2020

Dylai trefnwyr digwyddiadau roi darpariaeth ddigonol ar gyfer ymwelwyr anabl â’u digwyddiad.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol nodi mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd pa ddarpariaeth fydd ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol.

  • Parcio – sicrhau y darperir digon o leoedd parcio i bobl anabl o fewn pellter derbyniol i safle’r digwyddiad
  • Toiledau – er nad oes canllawiau pendant ar ddarpariaeth, dylai trefnwyr digwyddiadau asesu demograffeg cynulleidfa darged y digwyddiad a chynllunio cyfleusterau hylendid yn unol â hynny
  • Llwybrau – dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried defnyddwyr cadeiriau olwyn wrth gynllunio eu digwyddiad
  • Ardaloedd gwylio
  • Darparu tocynnau

Gweler Colli Plentyn neu Oedolyn sy’n Agored i Niwed

Canllawiau ar bob digwyddiad