Caeau Chwaraeon Blackweir

Cyhoeddwyd 29th Maw, 2021

Defnyddir Caeau Chwaraeon Blackweir yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae rygbi a phêl-droed yma yn y gaeaf, a chriced yn yr haf.

Felly, prin y bydd ar gael i’w ddefnyddio i gynnal digwyddiadau ac ni ddylai unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir achosi niwed i’r caeau a gynhelir nac ymyrryd ag archebion clybiau chwaraeon.

Nid yw’r llwybrau cyfagos yn addas ar gyfer llwytho cerbydau sylweddol.

Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:

  • Digwyddiadau tân gwyllt
  • Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cymedrol
  • Twrnamaint chwaraeon
LleoliadGoogle Map
Maint21,000 sqm
Trwydded SafleMae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute
Ffi LlogiFFi Llogi
Cyflenwad pŵer ar y safleDim 
Cyflenwad dŵr ar y safleDim 
CarthffosiaethDim 
ToiledauGellir rhoi cyfleusterau ystafell newid y Gored Ddu ar gael i staff a gwirfoddolwyr ac ar gyfer digwyddiadau bach.
Mae taliadau yn berthnasol.
Drwy drefniant ymlaen llaw.
Llinellau ffôn/ISDNDim 
Cysylltiad DataDim 

Ystyriaethau Eraill

Caeau ChwaraeonMae’r safle hwn yn cael ei logi’n bennaf ar gyfer gemau chwaraeon – mae ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau drwy drefniant yn unig.
CymdogionMae’r safle gerllaw Gorsaf Ambiwlans Caerdydd. Ni chaniateir mynediad i’r safle drwy’r orsaf ambiwlans.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia. Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi’u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i’r lleoliad cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd a’r preswylfeydd newydd ar Heol y Gadeirlan.

• Gorsaf Ambiwlans y Gored Ddu
• Bythynnod y Gored Ddu

Mynediad at y safle

Mynedfa i GerddwyrY mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
• Bythynnod y Gored Ddu (o faes parcio Heol y Gogledd – ddim yn addas ar gyfer niferoedd mawr)
• Pont y Gored Ddu (o’r gogledd)
• Pont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y dwyrain)
• Pont y Mileniwm (o Erddi Sophia, y gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/Llwyth
• Mae mynediad cerbydau i’r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau.
• Mae’r pont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyflenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy’n dod i mewn ac yn gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd gwasanaeth prif ddigwyddiadau tua’r de.
• Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i mewn i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o ‘gardiau llithro’ er mwyn gallu rheoli traffig mewn perthynas â’ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio’r system rheoli bolardiau yn ddiogel.
• Bydd stiwardiaid/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai’r rhain fod mewn cysylltiad radio â’i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc.
• Prin iawn yw’r lle y gellir troi a dadlwytho cerbydau digwyddiadau. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sydd ar y safle. Gall peidio â gwneud hyn niweidio’r glaswellt yn ddiangen a’ch gadael yn atebol am gostau adfer.
• Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i’r glaswellt i gerbydau sydd â llwyth sy’n fwy na phum tunnell.
• Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn/tâp perygl) mewn ardaloedd sy’n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy’n mynd ar hyd y llwybrau.
• Mae rhai ardaloedd ‘dim mynediad’ yn gyfagos â’r safle’r digwyddiad a rhaid diogelu’r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl i’ch digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canopïau coed yn gyffredinol, sgwariau criced ac ati]
• Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion ‘modd digwyddiadau’ i helpu i reoli traffig digwyddiadau pan fo’r niferoedd yn sylweddol.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio CDM

  • Mae system rheoli bolardiau awtomatig ym Mhont Mynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ddefnyddio’n ddiogel ar gael.
  • Mae terfyn cyflymder cerbydau 5 mya o fewn y parc
  • Ni all cerbydau droi i’r dde i mewn nac allan o’r parc wrth y bont cerbydau
  • Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r bont mynediad i gerbydau wrth fynedfa’r parc – mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau i’r dde wrth fynd i mewn i’r parc a’i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gefnogi cerbydau sy’n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig
  • Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Droed y Mileniwm, sy’n croesi’r prif fynediad i gerbydau i’r parc.
  • Gall y parc fod yn brysur. Fe’i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent rannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau’r digwyddiad
  • Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau
  • Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd a glaswellt.
  • Mae’r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi i mewn neu ddod i mewn ar ôl cloi drwy lwybrau answyddogol
  • Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.
  • Nid oes goleuadau yn y parc ac mae’n dywyll iawn ar ôl machlud yr haul.
  • Mae’r parc ehangach y tu allan i safle’r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi’u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Addysg yng nghanol y parc. Mae’r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu â cheidwad, dylai’r alwad fynd drwy Reolwr y Parc yn y lle cyntaf
  • Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli’r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.
  • Defnyddir caeau chwaraeon yn rheolaidd ar y safle digwyddiadau hwn. Mae’r rhain wedi’u nodi ar gynllun sylfaenol yr ardal digwyddiadau. Dylech ofalu eich bod yn osgoi’r ardaloedd sydd wedi’u marcio fel y sgwariau criced.
  • Os oes angen i unrhyw un o’r goliau pêl-droed neu’r pyst rygbi gael eu tynnu ar gyfer eich digwyddiad, rhaid trefnu hyn gyda Rheolwyr y Parc mewn da bryd.
  • Rhaid i chi roi gwybod i swyddfa’r Rheolwyr Parc a gofyn am ganiatâd i dorri unrhyw dir.
  • Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar gyfer staff digwyddiadau ar hyn o bryd. Mae toiledau sydd wedi’u lleoli yng nghaffis y parc ar gael i staff/cyfranogwyr digwyddiadau at ddefnydd ysgafn yn unig. Gellir rhoi cyfleusterau ystafell newid y Gored Ddu ar gael i staff a gwirfoddolwyr ac ar gyfer digwyddiadau bach drwy drefnu o flaen llaw.
  • Mae’r safle gerllaw Gorsaf Ambiwlans Caerdydd. Ni chaniateir mynediad i’r safle drwy’r orsaf ambiwlans
  • Dylid annog cyfranogwyr i beidio â mynd i mewn i safle eich digwyddiad yn uniongyrchol drwy’r orsaf ambiwlans – dylid eu cyfeirio o’r maes parcio drwy’r fynedfa heibio i Fythynnod y Gored Ddu ac o’r parc.
  • Y safle yw’r safle glanio amgen ar gyfer hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru y gwasanaethau brys a hofrenyddion milwrol. Rhowch wybod i Ddesg y Gwasanaeth Meddygol Brys Hofrenyddion (HEMS) am ddyddiadau eich digwyddiad drwy 0300 1232301.
Canllawiau ar bob digwyddiad