Traffig Digwyddiadau – Cod Ymddygiad

Cyhoeddwyd 7th Chw, 2020

Mae system o reolau safle wedi’i sefydlu i helpu i baratoi Cynllun Rheoli Traffig

  • Gosod cyfyngiad cyflymder o 5mya
  • Defnyddio’r goleuadau perygl
  • Ildio i gerddwyr a beicwyr.
  • Cadw at ffyrdd dynodedig – peidio â theithio i ardaloedd glaswelltog/ymylon
  • Peidio â thorri corneli
  • Wrth fagio, dylid sicrhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny a gofyn am rywun i dywys.
  • Dim symud cerbydau ar y safle pan fydd ar agor oni bai o dan gyfarwyddyd y goruchwyliwr
  • Dim ond cerbydau gweithredol sy’n cael mynd i mewn i’r parc. Dylid parcio pob cerbyd personol y tu allan
  • Dim parcio cyhoeddus ar y safle

Mae’n bwysig bod Marsialiaid Traffig yn deall eu rolau ac yn cael briff ar ddefnyddio’r system mynediad gyda bolardiau (safleoedd Parc Bute).

Rôl y Marsial Traffig yw cynnal system Rheoli Traffig ddiogel ac effeithiol sy’n gyfrifol am bob cerbyd p’un ai yw’r gyrrwr yn aelod o staff y digwyddiad neu’n gontractwr.

Nodiadau

  • Trefnwyr Digwyddiadau sy’n gyfrifol am eu digwyddiad iechyd a diogelwch a diogelwch defnyddwyr eraill y parc
  • Rhaid i Farsialiaid Traffig wisgo dillad llachar a gosod eu hunain mewn safle sy’n weladwy i yrwyr
  • Rhaid sefydlu cysylltiadau cyfathrebu radio rhwng yr holl staff sy’n gweithio yn y tîm rheoli traffig
  • Rhaid i staff aros wrth ochr y ffordd hyd nes y bydd cerbydau wedi stopio
  • Dylai traffig heb awdurdod fynd i mewn a gadael drwy lwybrau dynodedig/cymeradwy yn unig.
  • Amserlenni manwl i’w casglu gan Reolwr y Safle yn manylu ar y cerbydau disgwyliedig sy’n dod i mewn i’r safle neu sy’n gadael.

Canllawiau ar bob digwyddiad