Pasbort i Ddinas Caerdydd

Cyhoeddwyd 5th Ion, 2024

Mae Pasbort i’r ddinas yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc 3 – 25* oed ymgysylltu â phrofiadau ar draws dinas Caerdydd. (*Anghenion Dysgu Ychwanegol)

Gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhaglenni addysgol.

Mae’r tîm yn cynnig rhaglenni pwrpasol mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y ddinas sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu hyder, hunan-barch ac ymdeimlad o berthyn fel dinesydd o’n prifddinas.

Mae’r rhaglen Pasbort i’r Ddinas yn ysbrydoli ac yn grymuso plant a phobl ifanc i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yng Nghaerdydd a thu hwnt.  Mae’n dathlu eu cyflawniadau ac yn eu hannog i barhau i ffynnu wrth iddynt lunio dyfodol eu dinas.

Mae’r tîm Pasbort i’r Ddinas yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, busnesau a sefydliadau yn y ddinas, i hyrwyddo profiadau a chyfleoedd sydd ar gael ledled y ddinas. Maent yn annog plant i archwilio’r ddinas drwy ddechrau gyda’r lleoliadau ar eu map o’r ddinas, gan gynnwys Parc Bute.

Allwch chi ein helpu ni i gefnogi’r cynllun hwn?

  • Allwch chi gynnig tocynnau i bobl ifanc ddod i’ch digwyddiad?
  • Tocynnau ar gyfer grŵp ysgol?
  • Tocynnau ar gyfer teulu?
  • Tocynnau i nifer o deuluoedd fynychu?

Mae unrhyw beth yn helpu, siaradwch â ni am yr hyn y gallwch ei gynnig.

Mae’r Tîm yn rhannu cynigion partneriaid yn rheolaidd a gallant helpu i roi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiadau i deuluoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Canllawiau ar bob digwyddiad