Sŵn

Cyhoeddwyd 22nd Ebr, 2020

Yn y lle cyntaf, bydd Trefnydd y Digwyddiad yn ymgynghori â Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau ynghylch lleoliad a chyfeiriad pob system annerch cyhoeddus, seinyddion a systemau cerddoriaeth i’w defnyddio yn y digwyddiad ac i sicrhau bod y digwyddiad yn aros o fewn lefelau sŵn derbyniol.

Gofynnir i Drefnydd y Digwyddiad ddarparu pwynt cyswllt ar ddiwrnod y digwyddiad y gellir cyfeirio unrhyw gwynion a ddaw i law ato er mwyn mynd i’r afael â nhw. 

Os aiff lefelau sŵn yn uwch nag a ganiateir a chânt eu hystyried yn niwsans, bydd yn ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad leihau’r sŵn i lefelau derbyniol, gan roi sylw arbennig i niwsans sŵn o ganlyniad uniongyrchol i’r osgled bas.

Fel rheol gyffredinol, ni chaiff lefel y sain fod yn uwch na 65 db (A), yn yr eiddo preswyl agosaf at safle’r digwyddiad.

Os yw lefelau sŵn yn parhau i fod yn niwsans ar ôl i Drefnydd y Digwyddiad gael ei rybuddio gan Oruchwyliwr y Safle neu ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan  Is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor, yna bydd ffynhonnell y sŵn yn cael ei chau.

Mewn achosion difrifol o niwsans sŵn, gellir cyflwyno hysbysiad o dan  Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i Drefnydd y Digwyddiad. Gall hyn arwain at ddirwy o hyd at £20,000 yn cael ei rhoi gan lys, yn dilyn erlyniad llwyddiannus.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ganslo neu gau digwyddiad oherwydd niwsans sŵn annerbyniol.

Dim ond gyda chaniatâd y Cyngor o flaen llaw y ceir cynnal profion sain y system gerddoriaeth neu sain band a rhaid cytuno ar amser unrhyw brofion sain o flaen llaw. Dylid ystyried preswylwyr cyfagos a busnesau ac ymgynghori â nhw wrth drefnu profion sain h.y. gallai arholiadau fod yn mynd rhagddynt yn CBCDC wrth Gae Cooper ym Mharc Bute neu briodas yng Nghastell Caerdydd. 

Gweler Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas yn y canllawiau sy’n benodol i safle.

Canllawiau ar bob digwyddiad