Hanes
Mae hanes Parc Bute yn ymestyn cannoedd o flynyddoedd yn ôl, a thros y canrifoedd mae’r tir wedi newid sawl gwaith.
1100s
Yn ystod y 1100au prif nodweddion y tir a adwaenir heddiw fel Parc Bute oedd y castell ac Afon Taf ac roedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannau bach, crefydd ac amaethyddiaeth.
Roedd y gweithgareddau hyn yn adlewyrchu prif fasnachau Caerdydd ar y pryd a’i phwysigrwydd fel canolfan grefyddol.
1700s
Erbyn 1766, etifeddwyd y castell gan y teulu Bute cyfoethog ac erbyn diwedd y 1800au roedden nhw wedi dechrau datblygu’r tiroedd. Cyfunwyd y tir o amgylch y castell a chrëwyd gerddi pleser.
Bu Andrew Pettigrew yn gweithio’n agos gyda’r pensaer William Burgess i greu tirwedd a oedd yn cydweddu â’r gwaith addurnedig ar y castell.
1800s
Yn 1855 fe wnaeth y Teulu Bute gau Caeau Cooper i’r cyhoedd. Ond yn 1857, cafodd Gerddi Sophia eu hagor i’r cyhoedd gan y teulu Bute i wneud iawn am wahardd mynediad cyhoeddus o dir ar ochr ddwyreiniol yr afon - Parc Bute nawr.
Dechreuodd Andrew Pettigrew weithio yn Ystâd Bute yn Nhŷ Dumfries, Swydd Aeron. Cafodd ei benodi fel y prif arddwr i'r trydydd Ardalydd Bute yn 1873 gan weithio'n agos â'r Ardalydd a’i bensaer William Burges i osod tir y castell, Parc Bute nawr.
Ar ddiwedd yr 1800au cafodd y Bont Swisaidd a’r Wal Anifeiliaid a ddyluniwyd gan William Burges eu hadeiladu.
Heddiw
Erbyn hyn mae’r tir yn ‘galon werdd’ y ddinas ac mae’n cynnig cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a gardd goed hardd a helaeth, yn ogystal â lleoliad ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr.
Ar ôl diddordeb gan y cyhoedd, cafodd y parc ei adfer rhwng 2010 a 2014. Cefnogwyd y project gan grant gwerth £3.1 miliwn trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac roedd yn canolbwyntio ar:
- Gadw ac adfer nodweddion hanesyddol, amgylcheddol a garddwriaethol arbennig.
- Gwneud y parc yn hygyrch i bob ymwelydd.
- Adeiladu’r Ganolfan ymwelwyr.
- Adnewyddu a datblygu Porth y Gorllewin (yr hyn rydym bellach yn ei adnabod fel Ystafelloedd Te Pettigrew).
- Glanhau ac atgyweirio Wal yr Anifeiliaid.
Hanes angof

Yn y 1870au, adeiladodd Burgess Bont y Swistir, ffordd newydd o adael y castell i’r tiroedd preifat dros hen nant y felin. Pan gafodd Porth y Gorllewin ei ailadeiladu yn y 1920au yn ôl cyfarwyddiadau’r 4ydd Ardalydd Bute, symudwyd Pont y Swistir i groesi camlas gyflenwi'r dociau islaw Stablau'r Castell.
Yn anffodus cafodd Pont y Swistir ei dadosod ar ôl cael ei fandaleiddio yn y 1960au.
Atyniadau Hanesyddol
Wal Derfyn y Dwyrain
Wal Derfyn y Dwyrain
Mae’r wal hon yn rhedeg hyd a lled y ffin o ffermdy’r Gored Ddu i borthdy Gabalfa. Ni wyddys union oed y wal ond gall fod yn gyfoes â Phorthdy Llys-Tal-y-Bont sy’n dyddio cyn 1880. Mae’n nodwedd weledol sylweddol ar hyd y llwybr beicio gogledd/de ac mae’n gosod yn gryf y ffin ar gyfer rhan... View Wal Derfyn y Dwyrain Learn more.
Seiliau’r Oriel
Seiliau’r Oriel
Yn union i’r gogledd o wal yr anifeiliaid, mae seiliau concrit mawr a adeiladwyd ym 1937 i greu oriel gelf breifat ar dir y castell. Dyluniwyd y strwythur gwreiddiol gan F. R. Bates o Gasnewydd. Bwriad perchennog y castell, 4ydd Ardalydd Bute (1881 – 1947), oedd arddangos casgliad o baentiadau a gysylltir â’i ystadau ym... View Seiliau’r Oriel Learn more.
Ategweithiau’r Bont
Ategweithiau’r Bont
Mae’r cerrig hyn yn nodi pen dwyreiniol y bont o’r 18fed ganrif ar draws Afon Taf a ddisodlwyd gan y bont bresennol yn y 1920au. Mae gwaith cerrig ategweithiau’r bont o’r 18fed ganrif yn dal i gael ei gadw o fewn y clawdd atal llifogydd ar lan ddwyreiniol Afon Taf wrth ymyl pont bresennol Pont... View Ategweithiau’r Bont Learn more.
Pont Porth y Gorllewin
Pont Porth y Gorllewin
Ailadeiladwyd Porth y Gorllewin a’r bont ar ochr y Castell gan John P. Grant ar gyfarwyddiadau’r 4ydd Ardalydd ym 1921. Dymchwelwyd y porth gwreiddiol i raddau helaeth ar ôl 1787, ond arhosodd un pier. Pan adeiladwyd y porth newydd, adeiladwyd pont newydd hefyd i rychwantu’r cyrsiau dŵr a oedd wedi bwydo’r ddwy felin ym Melin... View Pont Porth y Gorllewin Learn more.
Pont a Ffynnon Arglwyddes Bute
Pont a Ffynnon Arglwyddes Bute
Pont Arglwyddes Bute Rhoddodd y bont fynediad i aelodau o deulu Bute i’w gerddi i’r gorllewin o’r gamlas gyflenwi, gan ddefnyddio lôn gerbydau a arweiniodd o Borth y Gogledd y Castell i Stryd y Castell. Mae’r hen gerdyn post (trwy garedigrwydd Vena ac Wynne Edwards) yn dangos y gamlas gyflenwi sy’n arwain tuag at y... View Pont a Ffynnon Arglwyddes Bute Learn more.
Caffi’r Tŷ Haf
Caffi’r Tŷ Haf
Mae Caffi’r Tŷ Haf yn cynnig detholiad eang o ddiodydd a byrbrydau o ffynonellau lleol. Learn more.
Ystafelloedd Te Pettigrew
Ystafelloedd Te Pettigrew
Mae’r ystafell de hon yn null yr oes a fu i’w chael ym mhen deheuol y parc yn adeilad hardd Porth y Gorllewin ar Stryd y Castell. Learn more.
Drws y Bobl
Drws y Bobl
Drws y Bobl - a work of art. Learn more.
Castell Caerdydd
Castell Caerdydd
Mae tyrau tylwyth teg a muriau’r castell yn celu hanes 2,000 o flynyddoedd Learn more.
Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
Mae sawl llwybr, gweithgaredd a nodwedd chwarae ledled Parc Bute i chi eu mwynhau. Bydd llawer yn eich helpu i ddysgu mwy am y parc a'r hyn sy'n byw ynddo. Learn more.
Gardd Stuttgart
Gardd Stuttgart
Y ddinas rhwng y coed a’r gwinwydd. Learn more.
Camlas Gyflenwi’r Dociau
Camlas Gyflenwi’r Dociau
Mae Camlas Gyflenwi’r Dociau yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol Parc Bute o’r Gored Ddu ar y pen gogleddol, i’r de at y Castell, lle mae'n troi i'r dwyrain, ac yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol y Castell i adael y Parc. Learn more.
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Mae’r coetir prydferth hwn wedi’i ddyrannu fel Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SoDdCN) oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Learn more.
Gorsaf Dywydd
Gorsaf Dywydd
Mae’r orsaf bresennol yn rhan o rwydwaith y Swyddfa Dywydd o fwy na 270 o orsafoedd tywydd awtomatig sy’n adrodd cyfuniad o arsylwadau tywydd fesul awr (arsylwadau synoptig) yn ogystal â chrynodebau dyddiol o’r tywydd (arsylwadau hinsawdd). Learn more.
Polyn Siarter Coed
Polyn Siarter Coed
Mae’r Siarter Coed, Coedwigoedd a Phobl yn nodi’r egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed gyd-fyw yn gadarn. Learn more.
Cylch yr Orsedd
Cylch yr Orsedd
Cafodd y cylch cerrig eu gosod ym 1978 i ddynodi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd. Learn more.
Brodordy y Brodyr Duon
Brodordy y Brodyr Duon
Mae Brodordy y Brodyr Duon yn heneb gofrestredig ac yn adeilad rhestredig sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Learn more.
Cafn y Felin
Cafn y Felin
Yr enw am y corff dŵr ar hyd ymyl orllewinol Castell Caerdydd yw Cafn y Felin. Learn more.
Wal yr Anifeiliaid
Wal yr Anifeiliaid
Mae’r anifeiliaid yn sbecian dros y wal o’r parc i Stryd y Castell gan beri diddanwch i genedlaethau o drigolion ac ymwelwyr. Learn more.
Afon Taf
Afon Taf
Mae Afon Taf yn 64 km o hyd ac yn cael ei ffurfio yng Nghefn-coed-y-cymer ym Merthyr Tudful lle mae afonydd Taf Fechan a Thaf Fawr yn ymuno. Learn more.