Cychod Gwenyn

Ar un adeg roedd y cychod gwenyn ym Mharc Bute yn darparu mêl ar gyfer y teulu Bute cyfoethog a’u gwesteion yng Nghastell Caerdydd ond mae dros 60 mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i fêl gael ei gynhyrchu yn y parc yng nghanol y ddinas.

Trwy roddion preifat i helpu i ailsefydlu’r cychod a gwaith gan wenwynwyr lleol, Nature’s Little Helpers, i fentora cyflogeion y parc, mae mêl Parc Bute ar y fwydlen unwaith eto ac ar gael i’w brynu’n uniongyrchol o Ganolfan Addysg Parc Bute ac Ystafelloedd Te Pettigrew.

Gall defnyddwyr y Parc weld y cychod gwenyn mewn ffenestr arbennig yn y ffens yn Siop Blanhigion Parc Bute yn ystod oriau agor.