Archives

Pedal Power

Gallwch logi beic gan Pedal Power ym Mhontcanna a mwynhau harddwch Parc Bute neu feicio ar hyd Llwybr y Taf.

Siop Blanhigion

Mae’r Siop Blanhigion Parc Bute yn cadw stôr o blanhigion a bylbiau i’w prynu.

Cylch yr Orsedd

Cafodd y cylch cerrig eu gosod ym 1978 i ddynodi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd.

Cychod Gwenyn

Ar un adeg roedd y cychod gwenyn ym Mharc Bute yn darparu mêl ar gyfer y teulu Bute cyfoethog a’u gwesteion yng Nghastell Caerdydd

Border Blodau

Mae ein Border Blodau mawr ei glod yn arddangosfa drawiadol o blanhigion lluosflwydd a blodau sy’n gyfochrog ag Afon Taf.

Dôl yr Ystlumod

Crëwyd dôl y blodau gwyllt yn 2017 i gynnig cynefin amrywiol a deniadol i bryfed a pheillwyr ac i fod yn ffynhonnell fwyd i annog cynnydd ym mhoblogaeth yr ystlumod.

Llwybr Chwarae Coetir

Ynghudd yn y coed y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf, mae 11 eitem chwarae awyr agored yn creu llwybr cydbwyso coetir cyffrous a hwyliog i bobl ifanc neu’r rhai sy’n teimlo’n ifanc.

Cerfluniau

Mae un cerflun ar hugain i’w darganfod ar hyd a lled y parc. Fe’u crëwyd gan sawl artist, yn aml gan ddefnyddio coed marw oddi fewn y parc.

Llwybrau Darganfod y Tymhorau

Mae ein Llwybrau Darganfod y Tymhorau yn llawn syniadau am bethau difyr i blant eu gwneud yn y parc trwy gydol y flwyddyn.

Llwybr Hanes – History Points (codau QR)

Gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth, hen ffotograffau, darluniau a mapiau o Barc Bute trwy gyrchu ein tudalennau ar wefan HistoryPoints.org neu, os ydych yn y parc, trwy ddefnyddio darllenydd codau QR ar eich teclyn symudol.