Bond
Cyhoeddwyd 16th Apr, 2020Bydd bond yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar fanylion a gyflwynwch yn eich cais digwyddiad. Cyfeiriwch at y canllawiau sy’n benodol i safle ynghylch costau.
Bydd angen bond ad-daladwy (sydd wedi’i eithrio rhag TAW) i yswirio’r Cyngor yn erbyn unrhyw gostau nas rhagwelir sy’n deillio o’ch digwyddiad. Byddai hyn yn cynnwys difrod i’r safle, costau staff ychwanegol oherwydd methiant ar ran y trefnydd digwyddiad a dirwyon yn unol â’r canllawiau a ddarperir.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Cyngor yn cymryd risg ar ddefnydd a thraul rhesymol ar y safle h.y. yr hyn y gellir ei adfer fel rhan o’n gwaith cynnal a chadw tir cylchol arfaethedig. Chi sy’n gyfrifol am gynllunio a rheoli eich digwyddiad mewn modd sy’n lleihau difrod i’r safle, a chytuno ar gynllun diogelu’r ddaear gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parc.
Cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad yw cynllun rhag tywydd gwlyb ac mae Rheolwr Digwyddiadau’r Parc yn cadw’r hawl i gau’r cyfan neu ran o’r safle os nad oes cynllun effeithiol yn achos tywydd gwlyb ar waith pan fo angen. Bydd Rheolwr y Parc yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar risgiau diogelwch i’r cyhoedd a risgiau ariannol i’r Cyngor a fyddai’n deillio o ddifrod tebygol i’r lleoliad.
Rhaid i’ch anfoneb am daliad bond glirio yn ein cyfrif cyn dyddiad eich digwyddiad. Os na allwch dalu’ch bond mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wrthod eich mynediad i’r safle.
Os bydd eich digwyddiad yn peri costau i Gyngor Caerdydd bydd y rhain yn cael eu didynnu o’ch bond a bydd y balans yn cael ei ad-dalu. Ar gyfer unrhyw symiau sy’n ychwanegol at y swm a gedwir yn eich bond byddwn yn anfon anfoneb ychwanegol atoch i dalu am y gwahaniaeth.Gweler Taro Bolard
Gweler Diogelu’r Ddaear
Gweler Sbwriel
Gweler Pŵer
Gweler Goruchwylydd Safle
Gweler Strwythurau Dros Dro