Tân gwyllt
Cyhoeddwyd 7th Gor, 2021Mae Parc Bute a Gerddi Sophia yn cael nifer o geisiadau drwy gydol y flwyddyn ar gyfer digwyddiadau, sydd yn aml yn digwydd ar safleoedd eraill, i ddefnyddio’r tir fel safle lansio ar gyfer tân gwyllt i ategu eu digwyddiadau.
Mae angen gwneud cais a chyflwyno dogfennau cysylltiedig ar gyfer y gweithgaredd hwn drwy’r weithdrefn arferol.
Mae ffioedd llogi yn berthnasol, sylwer mai dangosol yw’r holl brisiau a bydd ffioedd terfynol yn cael eu trafod fesul achos gyda Rheolwr Parc Bute. Bydd costau Goruchwylydd Safle, os oes angen un, yn ychwanegol at y costau a amlinellir isod.
| MAINT A MATH Y DIGWYDDIAD | Tân gwyllt am lai na 10 munud | Tân gwyllt yn hwy na 10 munud | 
| Cymunedol / Nid er Elw (Dim Ffi Mynediad) | Posibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau | Posibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau | 
| Nid er Elw gyda Ffi Mynediad/ Codi Arian elusennol | Posibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau | Posibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau | 
| Masnachol | £1,250 | £1,750 | 
| Lletygarwch / partïon preifat | £1,250 | £1,750 | 
| Bond – codir tâl bob amser oni bai bod risg isel iawn | £500 | £500 | 
Coelcerth
Efallai y rhoddir caniatâd trwy negodi. Rhaid i’r gweithgaredd fod wedi’i gynnwys yn Asesiad Risg y digwyddiad
Gweler Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler Asesiad Risg Tân 
Gweler Sbwriel
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Arbennig Cynhyrchiad a Gweithgarwch Peryglus
 
 
							
						






