Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Dydd Gwener 25 Medi
Dewch â’ch ci am dro yn y bore a sgwrsio gyda’r chwedlonol Clare Balding o’r byd darlledu wrth iddi lansio ei nofel Pastures New mewn clawr meddal.
Cwrdd yn Brodies on the Wall am goffi gyda Clare (a trits bach i’ch cŵn!) cyn ymuno â hi am dro o amgylch y parc, dan arweiniad gwirfoddolwr y parc. Bydd gan y mynychwyr gyfle hefyd i brynu copi wedi’i lofnodi o Pastures New mewn clawr meddal.
Mae diod boeth a byrbryd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn.
Nodyn: 1 ci i bob person a rhaid cadw pob ci ar dennyn.
O gael ei magu mewn iard rasio i sylwebu yng ngorymdaith Coroni’r Brenin ac arwain darlledu’r Gemau Olympaidd a Wimbledon, mae bywyd Clare Balding wedi bod yn anhygoel. Nawr, mae hi wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf yn seiliedig ar gymeriad sy’n symud o Lundain i fferm heriol yn Sir Fynwy. Darganfyddwch fwy am Pastures New yn ogystal â chyfrinachau o’r tu ôl i’r llenni o’i 30 mlynedd mewn darlledu…

Ewch i wefan y digwyddiad



