Rheoli Traffig
Cyhoeddwyd 14th Ebr, 2020Dylai pob digwyddiad sicrhau lefel briodol o ddarpariaeth i Gynllun Rheoli Traffig drwy gydol eich digwyddiad. Yn dibynnu ar raddfa neu gynllun eich digwyddiad, bydd angen lefel benodol o reoli traffig.
Mae’n ofynnol i chi fel un o amodau eich archeb, i lunio Cynllun Rheoli Traffig sy’n benodol i ddigwyddiad a chael aelod penodol o staff sy’n rheoli symudiadau cerbydau drwy bont fynediad y cerbyd bob amser rydych yn ei defnyddio.
Rhaid i chi roi enw llawn a manylion cyswllt symudol y person sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli traffig ar y safle gan y byddant yn berson allweddol i’n Goruchwyliwr Safle gysylltu ag ef.
Noder, gall y Cyngor ddarparu staff rheoli traffig ar gost os oes angen hyn arnoch. Nid yw rheoli traffig yn swyddogaeth a fydd yn cael ei chyflawni gan ein Goruchwylwyr Safle er y byddant yn monitro effeithiolrwydd ac yn adrodd yn ôl arsylwadau.
Bydd torri rheolau rheoli traffig y safle yn arwain at ddirwy o £250 fesul digwyddiad a gofnodwyd yn erbyn eich bond felly rydym yn eich cynghori’n gryf i sicrhau bod pob gyrrwr yn cael ei adnabod yn bersonol a’u bod yn llofnodi rhywbeth i gadarnhau eu bod wedi darllen a deall ein rheolau ymddygiad safle (gweler y ddolen isod).
Rhoddir gwybodaeth sy’n benodol i’r safle a fydd yn eich helpu gyda’ch Cynllun Rheoli Traffig yng Nghynllun y Cyfnod Adeiladu ar gyfer safle eich digwyddiad.
Cofiwch: Dim ond cerbydau gweithredol sy’n cael mynd i mewn i’r parc. Dylid parcio pob cerbyd personol y tu allan.
Prif amcanion Cynllun Rheoli Traffig yw:
- Iechyd a Diogelwch
- Diogelu Safle’r Digwyddiad
- Rheoli cerbydau digwyddiadau ar y safle
- Cefnogi cerbydau gweithredol y Parc
Ystyriwch:
- Mynediad a phroses traffig ar y safle
- Rheoli Bolardiau
- Diogelwch, Stiwardio ac ADD
- Defnyddio Arwyddion Modd Digwyddiadau
- Cod Ymddygiad i yrwyr
- Parcio
- Polisi ar gyfer cerbydau sy’n gadael ar ôl iddi dywyllu
- Mynediad i gerbydau argyfwng
Gweler Codau Post Mynediad
Gweler Mynediad i safle eich digwyddiad
Gweler Adrodd am Ddigwyddiadau’n ymwneud â Bolardiau
Gweler Bond
Gweler Gofalu am y tir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am y coed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Amserlen Cynhyrchiad a Cherbydau