Pedwar diwrnod o ddathlu’r Jiwbilî yng Nghaerdydd 5th Mehefin, 2022

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Bydd Picnic Jiwbilî Mawr ym Mharc Bute yn benllanw ar bedwar diwrnod o ddathliadau yng Nghaerdydd i nodi Jiwbilî’r Frenhines.

Dros benwythnos gŵyl y banc hefyd bydd Salíwt Ynnau Frenhinol yn digwydd yn Roald Dahl Plass, ac yna bydd gŵyl gerddoriaeth filwrol, cyngerdd yng Nghastell Caerdydd, ymweliad gan long y Llynges Frenhinol, a bydd ffagl yn cael ei chynnau ym Mae Caerdydd.

Picnic Jiwbilî Mawr (Dydd Sul 5 Mehefin, 12-5pm)

Paciwch hamper, casglwch eich teulu a’ch ffrindiau ynghyd ac ewch i’r hyfryd Barc Bute i gael Picnic Jiwbilî Mawr i gloi’r penwythnos. Bydd ymwelwyr yn gallu gwylio’r Pasiant Jiwbilî Platinwm yn fyw o Lundain ar sgrin enfawr neu’n gallu ymlacio a mwynhau’r gerddoriaeth a’r adloniant symudol am ddim ar y safle.

Gyda phopeth o fflamingos enfawr i opera crwydrol mae’n addo bod yn brynhawn cofiadwy iawn.

Ni fydd bwyd a diod ar werth ar y safle felly cofiwch ddod â’ch brechdanau, byrbrydau a chacennau eich hun i greu eich picnic Jiwbilî blasus eich hun!

Cefnogir Picnic y Jiwbilî Fawr gan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.


Ewch i wefan y digwyddiad

Manylion

5th Mehefin, 2022 - 5th Mehefin, 2022 12:00 pm - 5:00 pm

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute