Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Ymunwch â ni am daith gerdded chwilota am fwyd o amgylch tiroedd bendigedig Parc Bute, lle byddwn yn dysgu am y planhigion a’r madarch bwytadwy gwyllt a ddarganfyddwn.
Yn ystod y daith gerdded, byddwn yn stopio am luniaeth ysgafn a byddwn yn gorffen y dydd gyda chinio bwyd gwyllt blasus yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod. Mae ein bwyd i gyd yn dymhorol, felly bydd yr hyn y byddwn yn ei wneud yn dibynnu ar y tywydd diweddar a’r hyn sy’n tyfu yr adeg yna o’r flwyddyn. Yn y Gwanwyn byddwn yn defnyddio’r llysiau gwyrdd gwyllt ffres ac yn yr Hydref y casgliad o fadarch gwyllt blasus sydd yn y parc.
Ar ôl y cwrs byddwn yn e-bostio rhestr o bopeth rydyn ni wedi siarad amdano ar y dydd; i’ch helpu i gofio’r hyn rydych wedi ei ddysgu.


Dyddiadau/Amseroedd:
Dydd Sadwrn 17 Medi; 12pm-3.30pm
Dydd Gwener 30 Medi; 11am-2.30pm
Dydd Gwener 14 Hydref: 11am-2.30pm
Dydd Sadwrn 29 Hydref; 12pm-3.30pm
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein