Llwybrau
Mae amrywiaeth o deithiau cerdded a llwybrau ar hyd a lled y parc sy’n rhad ac am ddim, yn llawn hwyl ac yn addas i bob math o dywydd. P’un a ydych gyda’r teulu neu ar eich pen eich hun, dewch i archwilio’r 130 erw o dir a:
- Darganfod hanes y parc.
- Dysgu am ein gardd goed.
- Chwilio am gerfluniau.
- Chwarae ar y llwybr pren.
- Neu gymryd rhan mewn her ffitrwydd hyd yn oed.
Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau!
Ein llwybrau:
Coed Campus
Coed Campus
Mae’r llwybr hwn yn eich arwain o amgylch y parc ac yn tynnu sylw at ein casgliad o Goed Campus. Learn more.
Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
Mae sawl llwybr, gweithgaredd a nodwedd chwarae ledled Parc Bute i chi eu mwynhau. Bydd llawer yn eich helpu i ddysgu mwy am y parc a'r hyn sy'n byw ynddo. Learn more.
Llwybrau Stori
Llwybrau Stori
Dewch i chwarae, joio a dilyn llwybr stori’r plant drwy Barc Bute. Mae 5 stop ar hyd y daith… Learn more.
Taith Gweithgareddau Natur
Taith Gweithgareddau Natur
Wedi'i anelu at ein hymwelwyr iau - mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai rhwng 4 a 10 oed. Learn more.
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Mae’r coetir prydferth hwn wedi’i ddyrannu fel Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SoDdCN) oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Learn more.
Taith Antur Bywyd Gwyllt
Taith Antur Bywyd Gwyllt
Mae Teithiau Antur Bywyd Gwyllt Parc Bute ar gael i’w casglu yn y Ganolfan Addysg. Learn more.
Llwybr Chwarae Coetir
Llwybr Chwarae Coetir
Ynghudd yn y coed y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf, mae 11 eitem chwarae awyr agored yn creu llwybr cydbwyso coetir cyffrous a hwyliog i bobl ifanc neu’r rhai sy’n teimlo’n ifanc. Learn more.
Llwybrau Darganfod y Tymhorau
Llwybrau Darganfod y Tymhorau
Mae ein Llwybrau Darganfod y Tymhorau yn llawn syniadau am bethau difyr i blant eu gwneud yn y parc trwy gydol y flwyddyn. Learn more.
Llwybr Hanes – History Points (codau QR)
Llwybr Hanes – History Points (codau QR)
Gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth, hen ffotograffau, darluniau a mapiau o Barc Bute trwy gyrchu ein tudalennau ar wefan HistoryPoints.org neu, os ydych yn y parc, trwy ddefnyddio darllenydd codau QR ar eich teclyn symudol. Learn more.
Llwybr Coed i Deuluoedd
Llwybr Coed i Deuluoedd
Llwybr yw hwn ar gyfer teuluoedd sydd â phlant – gan roi mewnwelediad difyr a chyfeillgar i chi i’n casgliad. Learn more.
Llwybr Ffitrwydd
Llwybr Ffitrwydd
Ar hyd y llwybr ger meysydd chwarae Blackweir, byddwch yn dod o hyd i’n llwybr ffitrwydd Learn more.