Llwybr Ffitrwydd

Ar hyd y llwybr ger meysydd chwarae Blackweir, byddwch yn dod o hyd i’n llwybr ffitrwydd sy’n cynnwys yr 8 gorsaf ffitrwydd ganlynol:

  • Ymwthiadau
  • Mainc Orymestyn
  • Bariau Cyfochrog
  • Mainc Eistedd i Fyny
  • Gorsaf Ostwng
  • Codi i’r Ên
  • Ysgol Lorweddol
  • Codi’r Coesau

Mae’r llwybr ffitrwydd am ddim ar gael i’w ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn ac mae’n ffordd wych o arallgyfeirio eich hyfforddiant rhedeg neu roi cynnig ar ymarferion corff newydd heb orfod mynd i gampfa.

Mae hefyd yn boblogaidd gyda phobl sy’n mwynhau heriau ffitrwydd rhwng teuluoedd a ffrindiau.