Bywyd Gwyllt
O adar, gwenyn a phili-palod i bryfed a phlanhigion ar lawr y coetir, mae Parc Bute yn llawn bywyd gwyllt i chi ei ddarganfod.
Os byddwch yn lwcus, gallwch hyd yn oed weld dyfrgi. Gwyddys bod y rhain yn ymddangos bob hyn a hyn ar hyd yr afon ond maen nhw’n arbennig o swil, felly prin yw’r tebygrwydd o’u gweld.
Perllan Gymunedol Parc Bute
Perllan Gymunedol Parc Bute
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd i blannu perllannau cymunedol newydd ym Mharc Bute. Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu a’i arwain gan grŵp cymunedol gyda chymorth Cyfeillion Parc Bute. Mae dau leoliad ar gyfer y perllannoedd: y brif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu, ac un llai gerllaw safle hanesyddol ‘Lawnt y... View Perllan Gymunedol Parc Bute Learn more.
Taith Gweithgareddau Natur
Taith Gweithgareddau Natur
Wedi'i anelu at ein hymwelwyr iau - mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai rhwng 4 a 10 oed. Learn more.
Camlas Gyflenwi’r Dociau
Camlas Gyflenwi’r Dociau
Mae Camlas Gyflenwi’r Dociau yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol Parc Bute o’r Gored Ddu ar y pen gogleddol, i’r de at y Castell, lle mae'n troi i'r dwyrain, ac yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol y Castell i adael y Parc. Learn more.
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Mae’r coetir prydferth hwn wedi’i ddyrannu fel Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SoDdCN) oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Learn more.
Taith Antur Bywyd Gwyllt
Taith Antur Bywyd Gwyllt
Mae Teithiau Antur Bywyd Gwyllt Parc Bute ar gael i’w casglu yn y Ganolfan Addysg. Learn more.
Cychod Gwenyn
Cychod Gwenyn
Ar un adeg roedd y cychod gwenyn ym Mharc Bute yn darparu mêl ar gyfer y teulu Bute cyfoethog a’u gwesteion yng Nghastell Caerdydd Learn more.
Border Blodau
Border Blodau
Mae ein Border Blodau mawr ei glod yn arddangosfa drawiadol o blanhigion lluosflwydd a blodau sy’n gyfochrog ag Afon Taf. Learn more.
Dôl yr Ystlumod
Dôl yr Ystlumod
Crëwyd dôl y blodau gwyllt yn 2017 i gynnig cynefin amrywiol a deniadol i bryfed a pheillwyr ac i fod yn ffynhonnell fwyd i annog cynnydd ym mhoblogaeth yr ystlumod. Learn more.
Afon Taf
Afon Taf
Mae Afon Taf yn 64 km o hyd ac yn cael ei ffurfio yng Nghefn-coed-y-cymer ym Merthyr Tudful lle mae afonydd Taf Fechan a Thaf Fawr yn ymuno. Learn more.
Camerâu Bywyd Gwyllt
Yn 2018 gwnaethom osod camerâu bywyd gwyllt i recordio fideo o’r llu o anifeiliaid sy’n ymweld â’r parc. O flychau bwyd adar a byrddau adar i’n cychod gwenyn ein hunain, mae llawer o fywyd gwyllt i’w weld.
Mae ein camerâu’n dilyn:
- Cychod gwenyn yn waliau’r blanhigfa.
- Ffau cadnoid yn y sied agored yn iard y blanhigfa.
- Polyn y blwch bwyd adar a’r bwrdd adar ar y gwelyau blodau uchel y tu ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr.
- Dau safle bwydo draenogiaid – un dan do ac un awyr agored – yng nghefn y siop blanhigion.
- Nifer o gamerâu mewn blychau nythu ar y coed ar hyd terfyn y blanhigfa ac un ym mhrif adeilad y blanhigfa.
Mae’r camerâu bywyd gwyllt wedi rhoi cyfle newydd a chyffrous i wirfoddolwyr gefnogi’r parc. Gall gwirfoddolwyr helpu trwy edrych ar y fideo a gwneud recordiadau o ddigwyddiadau penodol o ddiddordeb (anifeiliaid yn bwyta, wyau’n deor, bwydo’r ifanc ac ati)
Mae’r recordiadau eisoes wedi gwella ein gweithgareddau addysg i blant ysgol gyda fideo o ddraenogiaid yn cael ei ddangos fel rhan o sesiwn draenogiaid a gaeafgysgu ym mis Tachwedd y llynedd.
Gallwch fwynhau fideo byw ar-lein neu gallwch wylio ein diweddariadau bywyd gwyllt ar ein sianel YouTube. .
Ar camera
Dyma rai o’r anifeiliaid rydym wedi’u gweld hyd yn hyn:
- Cadno.
- Draenogiaid.
- Gwenci.
- Llygod.
- Llawer o wiwerod.
Dyma rai o’r adar sy’n ymweld yn aml:
- Llwyd y gwrych.
- Robin.
- Titw penddu.
- Titw mawr.
- Delor y cnau.
- Ysguthan.