Tywydd
Cyhoeddwyd 17th Oct, 2022Mae’r tywydd yn ffactor sy’n berthnasol i ddigwyddiadau a gynhelir mewn parciau a mannau agored.
Mae monitro’r tywydd yn allweddol i unrhyw ddigwyddiad awyr agored gan y gall amodau’r tywydd effeithio ar lwyddiant y digwyddiad, a hefyd fod yn beryglus a rhoi mynychwyr mewn perygl posib. Gall effeithio ar ffigurau presenoldeb, sefydlogrwydd eich strwythurau, amodau’r ddaear, yn ogystal ag iechyd a diogelwch eich staff a’ch gwesteion.
Dylai Trefnwyr Digwyddiadau ei gwneud yn gyfrifoldeb arnynt i wirio rhagolygon y tywydd yn aml ar gyfer lleoliad eu digwyddiad yn y cyfnod yn arwain lan at y digwyddiad (wrth greu strwythurau’r digwyddiad ac ar ddiwrnod(au) y digwyddiad) a gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer tywydd garw ac amodau eithafol.
Ffactorau tywydd eithafol y dylech eu hystyried wrth gynllunio:
- Tymheredd Uchaf
- Tymheredd Isaf
- Cyflymder y Gwynt (gwynt amgylchynol a chyflymder uchaf hyrddiadau gwynt a ragwelir)
- Glaw
Monitro’r tywydd yw’r amddiffyniad gorau rhag tywydd garw gan ei fod yn eich galluogi i weithredu cyn i’r amodau gydio ac felly osgoi sefyllfaoedd peryglus. Gellir defnyddio safleoedd y Swyddfa Dywydd a Thywydd y BBC i fonitro rhagolygon tywydd hirdymor a thymor byr.
Byddem yn disgwyl gweld cynlluniau wrth gefn ar gyfer y tywydd yn cael eu cynnwys yn eich asesiad risg a’ch cynlluniau gweithredol. Nodwch y canlynol yn benodol:
- Enw(au) y bobl yn eich tîm digwyddiadau sydd â chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau’n gysylltiedig â’r tywydd bob dydd y byddwch ar y safle yn ein lleoliad.
- Pryd byddan nhw’n gwneud penderfyniadau ac ar sail pa ddata? E.e. Oes gennych adeg penderfynu “Bwrw ymlaen/Peidio â bwrw ymlaen” yn ystod pob diwrnod y digwyddiad? Pa ffactorau sy’n effeithio ar ganlyniad y penderfyniad?
- Pa gamau gweithredu sydd yn eich Cynllun Rheoli Diogelwch Digwyddiad ar gyfer tywydd eithafol o fathau gwahanol?
Cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad yw cynllun rhag tywydd gwlyb ac mae Rheolwr Digwyddiadau’r Parc yn cadw’r hawl i gau’r cyfan neu ran o’r safle os nad oes cynllun effeithiol yn achos tywydd gwlyb ar waith pan fo angen. Bydd Rheolwr y Parc yn gwneud penderfyniad ar sail y peryglon i ddiogelwch y cyhoedd a’r peryglon ariannol i’r Cyngor a fyddai’n deillio o ddifrod tebygol i’r lleoliad.
Gweler Bond
Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cynlluniau Argyfwng
Gweler Diogelu’r Tir
Gweler Matiau Trac