Trefnu Digwyddiad
Gellir cynnal pob math o ddigwyddiadau ym Mharc Bute, o ddathliadau bach i grwpiau cymunedol, rasys rhedeg a theithiau cerdded elusennol i ddigwyddiadau mawr fel Sioe Flodau’r RHS, Cwpan y Byd y Digartref a Sbarcs yn y Parc.
Ceir nifer o leoedd digwyddiadau gwahanol i’w llogi, gyda phob un yn addas i wahanol fathau a meintiau digwyddiad.
Mae cynllunio a threfnu da yn hanfodol er mwyn cynnal digwyddiad sy'n ddiogel a hwylus.
Bydd yr adran hon o'r wefan yn helpu trefnwyr i ddewis y lleoliad mwyaf addas a deall y gweithdrefnau sy'n ymwneud â chynnal digwyddiadau ym mharciau a mannau agored Caerdydd.
Cymerwch olwg ar y canllaw A i Y hwn i’ch helpu i gyflwyno eich cais am ddigwyddiad. Rydym wedi ceisio cysylltu’r holl adrannau i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Fe welwch hefyd ddolenni i dudalennau priodol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
- Yng nghanol y ddinas
- Parcdiroedd prydferth
- Hygyrch dros ben
- Yn addas ar gyfer digwyddiadau mawr a bach
Gwybodaeth am bob man penodol yn y parc
Canllaw Digwyddiadau A-Y
Rydym wedi llunio rhestr ddealladwy o ganllawiau digwyddiad er mwyn helpu i gefnogi eich cais.
Darllenwch y canllaw cyn cyflwyno eich cais.
Ffurflen Gais Digwyddiadau
Os bwriedir cynnal eich digwyddiad chi ym Mharc Biwt, llenwch a dychwelyd eich cais i parcbiwt@caerdydd.gov.uk
Os bwriedir i’ch digwyddiad gael ei gynnal mewn parc arall neu fan agored yng Nghaerdydd anfonwch eich ffurflen gais i parksandsportsevents@caerdydd.gov.uk