Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Camu i’r Goleuni
Mae llwybr goleuadau Nadoligaidd gorau Cymru, yn ôl The Guardian, y Nadolig ym Mharc Bute, yn dychwelyd ar gyfer 2024 – gyda goleuadau NEWYDD o’r radd flaenaf – sy’n golygu y bydd y llwybr goleuadau eleni yn syfrdanu ymwelwyr unwaith eto.
Bydd y digwyddiad penigamp – sef y llwybr goleuadau mwyaf poblogaidd y DU y tu allan i Lundain ar hyn o bryd, yn dilyn llwybr wedi’i ail-ddychmygu, yn llawn delweddau i ymgolli ynddynt a goleuadau i ryfeddu.
Bydd y llwybr hefyd yn gweld y Pentref Nadolig yn dychwelyd, yn llawn masnachwyr crefftau lleol, y gellir eu cyrchu o ddechrau’r llwybr, gyda thocynnau safonol a’r tu allan i oriau brig ar gael, i gyd-fynd â chyllidebau pawb.
Gyda mwy na 100,000 o docynnau wedi’u gwerthu yn 2023, bydd y Nadolig ym Mharc Bute yn dychwelyd i ganol dinas Caerdydd o 22 Tachwedd hyd at 31Rhagfyr 2024, gan ddod â phum wythnos o hud y Nadolig gydag ef. Bydd ymwelwyr o bob oed yn gallu profi’r hud unwaith eto, wrth i’r parc gael ei feddiannu gan amrywiaeth drawiadol o laserau Nadoligaidd, coed neon a gosodwaith fflamau golau.
Gall ymwelwyr ddewis o nifer o slotiau amser gwahanol sy’n rhedeg bob nos ac mae’r digwyddiad yn gwbl hygyrch i’r rhai sydd â chadeiriau olwyn a phramiau, gyda’r nod o gynnig dathliad cynhwysol o’r Nadolig i’r teulu cyfan.
I gael rhagor o wybodaeth am y Nadolig ym Mharc Bute a sut i archebu tocynnau, ewch i nadoligparcbute.com
Cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol am gymorth drwy
E-bost: hello@christmasatbutepark.com
Gwefan: Hafan – Nadolig ym Mharc Bute
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein