Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Mae’r perfformiadau’n cydymffurfio’n llawn â rheoliadau Covid-19 a bydd rhai sioeau â chynulleidfa lai ar gyfer y rhai fyddai’n well ganddynt gadw pellter cymdeithasol. Bydd y Big Top yn cael ei gynhesu’n llawn, gyda bwyd poeth a diodydd Nadoligaidd a bar trwyddedig ar gael.
Bydd pabell Big Top NoFit State yng Ngerddi Sophia y gaeaf hwn gyda’r cyfle olaf erioed i weld LEXICON. Sioe syrcas yn gyforiog o lawenydd, hud, chwerthin ac ysgafnder, bydd hwn yn ddigwyddiad Nadolig amgen gwych ar gyfer cartref ein cwmni, Digwyddiad Dychwelyd Arbennig perffaith i’r Nadolig.
Wedi’r holl amser hwn ar wahân, rydym yn dod nôl ynghyd i fwynhau dathliad afieithus llawn hwyl a sbri Nadoligaidd yng nghanol y ddinas. Dewch â’ch teulu, eich ffrindiau, eich cymdogion, i godi’ch hwyliau gyda’r perfformiad dyrchafol a barddonol hwn – syrcas hwyl yn llawn hud, chwerthin ac ysgafnder, gyda band byw eithriadol.
Perfformiadau prynhawn a chyda’r nos o 15 Rhagfyr tan 15 Ionawr.
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein