Fandaliaeth i Barc Bute

Cyhoeddwyd 30th Sep, 2021

Rydym am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth anhygoel yn dilyn y fandaliaeth ofnadwy ddiweddar ym Mharc Bute.

Sefydlwyd tudalen Just Giving gan Berchennog Caffi’r Ardd Gudd ym Mharc Bute ac erbyn mis Ebrill 2022 roedd wedi codi £5k tuag at adfer y parc. Mae’r gronfa dorfol bellach ar gau ond gall pobl barhau i gefnogi’r parc yma. Hoffem ddiolch i Melissa a’r holl roddwyr a gefnogodd yr ymgyrch hon.

Bydd yr arian a godwyd yn cael ei drosglwyddo i Gyfeillion Parc Bute a’i ddefnyddio i blannu coed newydd yn lle’r coed a gollwyd oherwydd yr ymosodiad, y cafodd llawer ohonynt eu hariannu gan unigolion trwy gynllun rhoi coed Parc Bute. Gall unrhyw arian a fydd ar ôl gael ei ddal fel cronfa wedi’i chlustnodi gan Gyfeillion Parc Bute i ariannu coed newydd y bydd eu hangen ar ôl ymosodiadau fandaliaeth yn y dyfodol. Mae hyn yn creu rhywfaint o wydnwch a’r gobaith yw y bydd yn sicrhau nad yw darpar roddwyr coed yn cael eu rhwystro gan unrhyw risg barhaus o fandaliaeth.

Mae’n bleser gennym adrodd bod dau ddatblygiad cadarnhaol ar gyfer Parc Bute wedi deillio’n uniongyrchol o’r drasiedi hon:

Mae’r datblygiadau hyn, a gychwynnwyd gan aelodau o’r cyhoedd, yn rhoi neges rymus o undod a gobaith. Yn ogystal â’r teledu cylch cyfyng a osodwyd yn y parc ac o’i amgylch ers yr ymosodiad, gobeithiwn y byddant yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn targedu parc agored i niwed sy’n eiddo i’r ddinas sy’n hoff iawn ohono.

Plannwyd y coed cyntaf mewn perllan gymunedol newydd ym Mharc Bute Caerdydd heddiw (30 Tachwedd) wrth i gynlluniau ddatblygu yn sgil ymosodiad fandaliaeth ddinistriol ar y parc ddechrau dwyn ffrwyth. “Parc Bute yn ‘Plannu ‘Nôl yn Well’ gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd

Darllenwch ran nesaf y stori yma yn y blogiad hwn Parc Bute yn ‘Plannu ‘Nôl yn Well’ gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd.

Wnawn ni ddim gadael i’r bobl hyn ddifetha ein parc.

Diolch yn fawr
Tîm Parc Bute

Darllen mwy

Cafodd Rheolwr Parc Bute, Julia Sas, ei chyfweld yn fyw am yr ailblannu a’r berllan newydd gan Claire Summers ar sioe frecwast BBC Radio Wales 05-12-22. Mae’r sgwrs i’w chael 53:33 i mewn i’r rhaglen. Gwrandewch ar y cyfweliad drwy ddewis y pwynt amser hwnnw yma.