Plannu coedlan goed geirios ym Mharc Bute fel mynegiant o’r cyfeillgarwch parhaus rhwng Cymru a Japan

Cyhoeddwyd 27th Ion, 2022

Cynhaliodd Parc Bute seremoni blannu coed ar 26 Ionawr 2022.

Cafodd ugain o goed eu rhoi mewn ymateb i’r fandaliaeth a’r difrod gwerth miloedd o bunnoedd a achoswyd i goed, planhigfeydd, gwaith cerrig, gorchuddion tyllau a seilwaith ym mis Medi y llynedd.

Cafodd coed ceirios Japan, neu ‘sakura’, eu rhoi fel rhan o Brosiect Coed Ceirios Sakura, sy’n dathlu 150 mlynedd o gyfeillgarwch rhwng Cymru a Japan. Byddant yn ffurfio llwybr newydd o goed blodau ceirios yn y parc ar ôl iddynt flodeuo.

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich a gynhaliodd y digwyddiadau ac ymunodd Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi de Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith  Mr. Keisaku Sandy Sano, Cyd-Gadeirydd/Sylfaenydd Prosiect Coed Ceirios Sakura i blannu’r coed aArweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas aYr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury.

Roedd y gwesteion yn cynnwys yr Arglwyddes Victoria Borwick, Dirprwy Gadeirydd Prosiect Coed Ceirios Sakura; Mr Keith Dunn OBE, Conswl Anrhydeddus Japan yng Nghymru a Mr Peter Dewey, Uchel Siryf De Morgannwg.

Cyflwynodd disgyblion o Ysgol Mynydd Bychan y rhawiau seremonïol i wahoddedigion a chynorthwyo gyda’r gwaith plannu.

Gwahoddwyd disgyblion o ysgolion yng nghyffiniau’r parciau lle bydd y plannu yn cael e wneud i gyflwyno’r rhofiau seremonïol i’r cynrychiolwyr.

Dywedodd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich:   “Mae’n anrhydedd gwirioneddol i Gaerdydd gael ei dewis i dderbyn cymaint o’r coed ceirios hyfryd hyn, a fydd, rwy’n deall yn blodeuo ymhell i’r ganrif nesaf fel symbol hirhoedlog o’r cyd-ddealltwriaeth rhwng ein gwledydd.” 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae’n bleser llwyr cael bod yn rhan o’r dathliad hwn o gyfeillgarwch a chydweithrediad rhwng Cymru a Japan.  Diolch i’n holl westeion sydd wedi gwneud hwn yn achlysur arbennig iawn. 

“Mae wedi bod yn wych gweld yr ysgolion cynradd lleol sy’n rhan o blannu’r coed a fydd yn parhau i flodeuo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol “Dros y tymor plannu eleni, bydd dros 16,000 o goed yn cael eu plannu ledled Caerdydd ac rwy’n falch iawn y bydd y coed ceirios hardd hyn yn cyfrannu at einnod o gynyddu canopi’r coed yn ein dinas a darparu nodwedd drawiadol i ni nawr ac am flynyddoedd lawer i ddod.” 

Dywedodd Is-gennad Anrhydeddus Japan yng Nghymru, Keith Dunn, OBE, “Mae gan Gymru a Japan berthynas gref wedi’i datblygu dros fwy na 100 mlynedd.  Wrth wraidd y berthynas mae awydd am gyd-ddealltwriaeth a dysgu o ffordd ein gilydd o fyw, diwylliant a hanes. 

“Mae’r coed hyn yn symbol cryf o’n cyfeillgarwch y gall cenedlaethau’r dyfodol ei gefnogi a’i fwynhau ac rydym yn gobeithio y caiff y planhigion newydd hyn eu cofleidio gan ein cymunedau i’r dyfodol.”

Dywedodd Mr Keisaku Sandy Sano, sylfaenydd a Chyd-Gadeirydd Tîm Prosiect Coed Ceirios Sakura, “Mae’r ymateb a gawsom gan Gaerdydd a ledled Cymru wedi bod yn anhygoel. Mae’n dyst i’r berthynas gref rhwng ein gwledydd, a gobeithiwn y bydd y coed yn deyrnged barhaol i hynny.  

“Mae llawer o gorfforaethau Japan wedi penderfynu, drwy Gymdeithas Japan-Prydeinig, roi’r i’r prosiect hwn yn hael. Rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl ymdrechion a chefnogaeth a roddwyd gan bobl a chorfforaethau yn Japan a’r DU i’r prosiect hwn.” 

Cynrychiolir Prosiect Coed Ceirios Sakura yn Japan ganGymdeithas Brydeinig Japan, sydd â’r brif rôl o godi arian ar gyfer y prosiect, ac yn y DU gan bwyllgor arbennig a gynullwyd gan GwmniJapan Matsuri(sefydliad a gyd-reolir gan Gymdeithas Japan, Siambr Fasnach a Diwydiant Japan yn y DU, Cymdeithas Japan Llundaina Chlwb Nippon).

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Brosiect Coed Ceirios Sakura yma:https://japanuksakura.org/

Stori BBC

Cynhaliwyd y digwyddiadau yn yr awyr agored yn unol â chanllawiau cyfredol COVID-19 Llywodraeth Cymru.