Coroni Tîm Parc Bute y gorau yn y DU

Cyhoeddwyd 23rd Tach, 2022

Mae cyflogeion Parc Bute Caerdydd wedi cael eu coroni fel ‘Tîm y Flwyddyn’ yng ngwobrau ‘Goreuon y Goreuon yn y DU’ y Faner Werdd eleni.

Mae gwobrau ‘Goreuon y Goreuon yn y DU’ y Faner Werdd yn cydnabod timau ac unigolion eithriadol sydd yn gweithio’n ddiflino i wneud eu parciau a’u mannau gwyrdd yn fannau rhagorol i bawb eu mwynhau.

Derbyniodd Tîm Parc Bute wobr ‘Tîm y Flwyddyn’ yn y seremoni rithiol ar ddydd Mawrth 15 Tachwedd.

Gallwch wylio disgrifiad y categori, y rhai sydd ar y rhestr fer a’r eiliad y caiff y wobr ei datgelu drwy glicio ar y ddolen uchod a mynd 18:48 i mewn i’r fideo.

Ers 2010, mae’r tîm ymroddedig ym Mharc Bute wedi trawsnewid gofod nad oedd yn cael ei ddefnyddio llawer yn ganolbwynt gwyrdd bywiog yng Nghaerdydd. Gyda’r ymwelwyr blynyddol yn cynyddu o filiwn yn 2010 i ryw 2.5 miliwn erbyn hyn, mae’r tîm sy’n gyfrifol am ofalu am Barc Bute yn cael eu cymeradwyo am eu gwaith caled.

O gyfres gynyddol o ddigwyddiadau poblogaidd, i raglenni gwirfoddoli ac addysg ffyniannus, mae ‘Tîm Parc Bute’ wedi dangos lefel o fenter o’r radd flaenaf sydd o fudd i’r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Er gwaethaf heriau Covid-19 ac ymosodiad sylweddol gan fandaliaid yn y parc y llynedd, mae’r tîm yn fwy penderfynol nag erioed i roi’r gair ar led bod y parc yn berchen i bobl Caerdydd ac yn lle i bawb allu mwynhau yn ddiogel.

Gosodwyd camerâu Teledu Cylch Cyfyng i wella canfod ac atal troseddau a gosodwyd perllan gymunedol a rhodfa newydd o goed ceirios yn y parc, ddaeth i’r amlwg yn benodol mewn ymateb i’r ymosodiad gan fandaliaid, ac mae hyn yn dangos lefel y gefnogaeth sydd i’r parc yn y gymuned. Yn y pen draw, bydd dwy goeden yn cael eu plannu am bob un gafodd ei dinistrio yn yr ymosodiad.

Dywedodd Julia Sas, Rheolwr Parc Bute:

“Mae hwn yn gydnabyddiaeth ragorol i dîm Parc Bute: ein gwirfoddolwyr anhygoel, grŵp cyfeillion newydd, y tîm ymroddedig o staff sy’n gweithio mor galed ac yn ymfalchïo yn eu gwaith yn gofalu ar ôl y parc, a chymuned ehangach Parc Bute sy’n gofalu amdano. Mae’r Parc wedi wynebu cyfnod anodd yn ddiweddar, felly rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, Aelod o’r Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:

“Siaradwch â’r tîm ac fe wnewch chi ddeall yn gyflym gymaint y maent yn ei feddwl o Barc Bute, mae’n fwy na swydd iddynt, ac mae hynny’n dod i’r amlwg wrth i chi gerdded o amgylch tir y Faner Werdd. Gobeithio, gyda mwy o brosiectau cyffrous fel y berllan gymunedol, gŵyl olau Nadolig ym Mharc Bute yn dychwelyd, a gwelliannau a wnaed yn bosibl trwy’r cynllun cyfrannu at y prosiect gwella, gallwn annog mwy o bobl i ymweld â chalon werdd y ddinas.”

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:

“Gyda 2,208 o barciau a mannau gwyrdd yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU eleni, mae ennill ‘Tîm y Flwyddyn y DU’ yn gyflawniad mawr ac yn arwydd o waith caled a phenderfynoldeb Tîm Parc Bute.

Roedd yn dorcalonnus clywed am y fandaliaeth ofnadwy ym Mharc Bute yr amser yma y llynedd, ond rydym wrth ein bodd bod y parc wedi dod yn ôl yn gryfach nag erioed gyda llawer o ddatblygiadau cadarnhaol.

Diolch am eich ymdrechion diflino yn adfer calon werdd Dinas Caerdydd.”

Cafodd Cymru lwyddiant anhygoel yn y gwobrau rhithiol eleni gyda thros hanner gwobrau ‘Goreuon y Goreuon yn y DU’ yn mynd i enillwyr o Gymru:

  • Cyfraniad Eithriadol gan Aelod Etholedig – Andrea Mearns o Sir y Fflint am arwain trawsnewidiad Parc Bener Werdd Bryn y Beili yn yr Wyddgrug.
  • Menter Iechyd Orau – Prosiect Tyfu’n Dda ar gyfer gwella iechyd a lles cannoedd o bobl leol trwy arddio cymunedol therapiwtig yn eu dwy safle Baner Werdd yng Nghaerdydd.
  • Tîm Gwirfoddoli’r Flwyddyn – Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned am waith anhygoel y gwirfoddolwyr garddio yn trawsnewid pentwr o falurion yn ofod naturiol hyfryd yn y ganolfan, sydd wedi ennill statws y Faner Werdd eleni.
  • Addasu i Newid Hinsawdd – Yr Hwb yn Bwyd Bendigedig Porthmadog. Mae’r Hwb yn adeilad dim carbon hardd o fewn gardd gymunedol y Faner Werdd wedi ei wneud yn bennaf o eco-frics.
  • Tîm y Flwyddyn, Staff Parc – Tîm Parc Bute am ymdrechion diflino tîm anhygoel Parc Bute yn adfer y parc Baner Werdd – calon werdd Dinas Caerdydd.

Gwobr y Faner Werdd yw’r safon ansawdd rhyngwladol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd a chaiff ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.