Parc Bute yn ‘Plannu ‘Nôl yn Well’ gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd

Cyhoeddwyd 1st Rhag, 2022

Plannwyd y coed cyntaf mewn perllan gymunedol newydd ym Mharc Bute Caerdydd heddiw (30 Tachwedd) wrth i gynlluniau ddatblygu yn sgil ymosodiad fandaliaeth ddinistriol ar y parc ddechrau dwyn ffrwyth.

Cafodd dwsinau o goed eu dinistrio gan fandaliaid, a gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i’r parc ei wneud ym mis Medi’r llynedd, ond o’r diwrnod tywyll hwnnw yn hanes y parc daeth ymgyrch ariannu torfol a arweiniwyd gan y gymuned a fydd, ynghyd â chyllid rhaglen plannu coed torfol Coed Caerdydd y cyngor, yn gweld dwy goeden yn cael eu plannu yn y parc ar gyfer pob un goeden a ddinistriwyd gan fandaliaid.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  “Calon werdd y ddinas yw Parc Bute ac roedd yr ymosodiad wir yn teimlo fel cyllell yn y galon i bawb sy’n cymryd rhan yno, y tîm sy’n gweithio yno, y gwirfoddolwyr sy’n ein helpu ni i edrych ar ei ôl, y busnesau sy’n gweithredu o’r parc, a dwi’n siŵr i’r bobl sy’n gwneud dros 2.5m o ymweliadau â’r parc bob blwyddyn.

“Cafodd mwy na 20,000 o goed eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y tymor plannu diwethaf, a’r tymor hwn nod ein prosiect Coed Caerdydd yw plannu hyd yn oed yn fwy, ond dwi ddim yn siŵr y bydd unrhyw rai’n teimlo’n fwy arwyddocaol na’r rhai a blannwyd heddiw.”

Melissa Boothman, Bute Park Community Orchard; Paul Barrett, Friends of Bute Park; Christopher Engle, Coed Caerdydd; Cllr Jennifer Burke-Davies, Cabinet Member for Culture, Parks & Events

“Mae’n rhaid diolch yn fawr iawn i’r gymuned, eu hymateb gyda’r ariannu torfol, a’r gofal gwirioneddol maen nhw’n ei ddangos i’r parc, mae wedi bod yn wych. Mae’r arian maen nhw wedi’i godi i amnewid y coed a gollwyd, gyda nifer ohonynt wedi’u plannu gan deuluoedd er cof am eu hanwyliaid, wedi bod yn hanfodol.”

Bydd dau leoliad perllan: prif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu, ac un llai gerllaw’r ‘Lawnt y Berllan’ hanesyddol lle cafodd y coed ffrwythau treftadaeth cyntaf, gan gynnwys afal, eirin gwyrdd, eirin, gellyg, a cheirios eu plannu heddiw.

Daeth y syniad am berllan gymunedol allan o ddigwyddiad ‘Adennill y Parc’ a gynhaliwyd yn y dyddiau ar ôl yr ymosodiad. Wedi’i drefnu gan y pensaer lleol Den Benham, ochr yn ochr â Melissa Boothman, y mae ei Chaffi Gardd Gudd yn eistedd wrth galon y parc, arweiniodd y digwyddiad hefyd at Ms Boothman yn sefydlu ymgyrch ariannu torfol a gododd dros £5,000 tuag at goed newydd.

Wrth siarad ar ran y Berllan Gymunedol ar gyfer Grŵp Llywio Parc Bute, dywedodd Melissa Boothman:  “Mae ein cymuned yn anhygoel.  Roedd am fynd gymaint ymhellach na dim ond helpu i gymryd lle a gwneud yn dda’r difrod a wnaed.  Mae pobl yn credu ym Mharc Bute fel “parc y bobl” ac mae’r plannu heddiw yn ddechrau symbol byw o obaith a gwydnwch.  Mae’r weledigaeth, o berllan a ddyluniwyd gan y gymuned, wedi’i phlannu ganddyn nhw a’i mwynhau gan bawb, wedi dechrau.”

Mae disgwyl i goed pellach ar safle mwy’r berllan gael eu plannu cyn diwedd y tymor plannu, sy’n para tan wanwyn y flwyddyn nesaf.

Mae’r gwaith o ailblannu’r coed coffa a ddinistriwyd yn yr ymosodiad hefyd wedi dechrau.  Dywedodd Nirdeep Kaur, a gollodd y goeden goffa a blannwyd er cof am ei mam i’r fandaliaeth:  “Cafodd Mam ei geni yma yng Nghaerdydd, ond fuodd hi farw yn India, ac roedd hi’n cael ei amlosgi felly doedd dim carreg fedd na dim, roedd y goeden yn mynd i fod ‘ei lle hi.’

Caption: Gwirfoddolwyr Parc Bute ac un o Arddwyr Parciau Caerdydd yn plannu un o blith 100 o goed.

“Roedd y teulu cyfan wedi cyfrannu at godi arian ar ei gyfer, felly pan ges i wybod am y fandaliaeth roeddwn wedi fy nigalonni, a chymaint o gywilydd hefyd, roeddwn i’n teimlo’n naïf yn meddwl y byddai yno am flynyddoedd. Doeddwn i ddim yn gallu dweud wrth neb.  Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny ein bod ni’n mynd i’w ailblannu.

“Roeddwn i mor hapus ac yn teimlo rhyddhad pan wnes i ddarganfod bod yr arian wedi cael ei godi ac roedd yn cael ei ailblannu, mae’n golygu cymaint i mi.”  

Yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, gydag aelodau a Dîm Parc Bute, teuluoedd, ac elusennau a gollodd goed oherwydd y fandaliaeth, gydag aelodau Cyfeillion Newydd Parc Bute a phrosiect y Berllan Gymunedol.

I gael gwybodaeth am Gyfeillion Parc Bute ac am sut i gymryd rhan yn y gwaith o ddiogelu a gwella’r parc, ewch i: bute-park.com/cy/cyfeillion-parc-bute

I gael gwybodaeth am Goed Caerdydd, ewch i www.outdoorcardiff.com neu i @CoedCaerdydd ar Facebook / Twitter.