Mae’r Siarter Coed, Coedwigoedd a Phobl yn nodi’r egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed gyd-fyw yn gadarn. Lansiwyd y Siarter Coed yng Nghastell Lincoln ar 6 Tachwedd 2017, 800 mlwyddiant Siarter y Fforest a ddaeth i fod yn 1217. Mae’r Siarter Coed wedi’i gwreiddio mewn mwy na 60,000 o ‘straeon coed’ a gasglwyd gan bobl o bob cefndir ledled y DU.
Crëwyd 11 polyn y Siarter Coed gan Ystâd y Goron o dderw wedi ei dyfu ym Mhrydain, a cherfiwyd gan yr artist Simon Clements yng Nghanolfan Sylva Wood yn Abingdon.
Lleoliadau Polion Egwyddorion y Siarter Coed:
- Castell Lincoln (Polyn Hyrwyddwyr y Siarter Coed)
- Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl – Iechyd a Lles
- Parc Bute, Caerdydd – y Celfyddydau a Threftadaeth
- Coedwig Belvoir, Belfast – Cynllunio
- Lang Craigs, Dumbarton – Ymdopi â Bygythiadau
- Fforest Grizedale, Ardal y Llynnoedd – Yr Amgylchedd / cryfhau tirweddau
- Fforest Sherwood, Nottingham – Amddiffyn
- Parc Fforest Dinas Manceinion – Pobl a Mynediad i Goed
- Fferm Pound, Suffolk – Natur
- Canolfan Sylva Wood, Abingdon – Defnyddioldeb a Bywoliaethau
- Low Burnhall, Durham – Plannu
Diwrnod Cenedlaethol y Siarter Coed
Bydd Diwrnod y Siarter Coed yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed yn flynyddol. Mae hwn yn ddathliad blynyddol o goed i nodi dechrau tymor plannu coed y gaeaf, wedi ei drefnu gan Gyngor y Coed. Mae cymunedau, ysgolion, sefydliadau ac unigolion yn dathlu gyda gweithgareddau a digwyddiadau sy’n nodi ac yn adfywio’r berthynas rhwng pobl a choed.
Manylion
Ewch i'r wefanCyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Y Ganolfan Ymwelwyr
- Drws y Bobl
- Castell Caerdydd
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Llwybrau Stori
- Taith Gweithgareddau Natur
- Gardd Salad Caerdydd
- Gorsaf Dywydd
- Polyn Siarter Coed
- Taith Antur Bywyd Gwyllt
- Llwybr Hanes – History Points (codau QR)
- Brodordy y Brodyr Duon