Mae Camlas Gyflenwi’r Dociau yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol Parc Bute o’r Gored Ddu ar y pen gogleddol, i’r de at y Castell, lle mae’n troi i’r dwyrain, ac yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol y Castell i adael y Parc. Yna mae’n mynd o dan Heol y Gogledd ac ar hyd ymyl deheuol Parc Cathays, nes caiff ei sianelu ar ôl cyrraedd Plas-y-Parc, gan ddod i’r amlwg eto ar ochr ddeheuol Ffordd Churchill.
Fe’i crëwyd yn y 1830au, mewn cysylltiad â’r gwaith o adeiladu Doc Gorllewin Bute. Swyddogaeth y Gamlas Gyflenwi oedd darparu cyflenwad cyson o ddŵr ffres i’r doc i gadw sianel y fynedfa’n glir.
Yn ystod project adfer Parc Bute, roedd y gwaith o wella’r gamlas gyflenwi yn cynnwys gosod sawl set o risiau i’w cyrraedd yn rhwydd. Am ragor o hanes ar y Gamlas Gyflenwi ewch i wefannau Parciau Caerdydd a Pwyntiau Hanes.
Edrychwch ymhellach i lawr yr afon yn yr erthygl hon neu ewch ar daith y tu mewn i’r gamlas gyda Will Millard.
Yma fe welwch chi Las y Dorlan a chywion hwyaid. Rhwng mis Mai a mis Awst, edrychwch am y fursen fawr wych ar hyd ymyl y gamlas gyflenwi. Mae’r gwrywod yn las metelig ac mae’r benywod yn wyrdd metelig.
Gan sefyll ar y caeau chwarae yn y Gored Ddu, gallwch olrhain llwybr y gamlas drwy’r coetir a thu ôl i’r cae drwy ddilyn llinell o lwyni Rhododendron ac asaleas mawr.
Y ‘riwbob enfawr’ y gallwch ei weld ar lannau Camlas Gyflenwi’r Doc yn y gwanwyn yw Gunnera. Dyna un o’r planhigion llysieuaidd pensaernïol mwyaf ysblennydd a mwyaf o ran maint. Mae angen llawer o le ar y planhigion hyn gan ei bod yn anodd cyfyngu ar eu maint. Maent yn hoffi amodau llaith a chorsiog y gamlas. Edrychwch ar eu hadlewyrchiadau yn y dŵr i weld wynebau isaf pigog y dail.