Arolwg Defnyddwyr Parc Bute 2025
Cyhoeddwyd 19th Tach, 2025Eich ymweliad, Ein cyfleusterau, Prosiectau Gwella, Ein cefnogi ni… Rhannwch eich barn!
Mae Tîm Rheoli Parc Bute yn cynnal arolwg defnyddwyr bob blwyddyn i fonitro perfformiad a boddhad ymwelwyr â’r parc.
Mae canlyniadau’r arolwg yn werthfawr oherwydd, yn ogystal â thracio boddhad cyffredinol, maent yn cynnig adborth i ni ar feysydd penodol.
Mae pob ymateb yn cael ei ddarllen a’i werthfawrogi. Rydym yn eich gwahodd i dreulio ychydig funudau’n ateb rhai cwestiynau a fydd yn ein helpu i reoli’r safle’n barhaus.
Am eich cyfle i ennill 4 taleb £10 yn siop blanhigion Parc Bute, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi’r arolwg.







